Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Mehefin 2il - 8fed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Sioc.... Ges i harten! - Harten

harten - heart attack
trawiad ar y galon - trawiad ar y galon
anhygoel - incredible
gwir neu gai - true or false
chwerthin - to laugh
ehangu - to extend
cymedrol - moderate
yn fwy tebygol - more likely
yn rhyfeddol - remarkably
llwyr ymwrthodol - teetotal

"Ar ôl iddo fo gael trawiad ar y galon, mae Aled Richards wedi creu sioe gomedi newydd oedd i'w chlywed ar Radio Cymru amser cinio ddydd Llun. Yn y sioe mae Aled yn dangos nad yw cael 'harten' yn ddiwedd y byd, a bod chwerthin yn bendant yn help i wella..."

Beti a'i Phobol - Cat Jones

mo'yn - eisiau
ymchwil - research
blwyddyn bant - gap year
yn y cyfnod 'ny - in that period
cerddoriaeth - music
dodi - to put
cyfoeth - wealth
tlodi - poverty
enfawr - huge
gwynt - smell

"Digon o chwerthin yn fan'na gydag Aled Richards, ond gyda neges bwysig iawn y tu ôl i'r jôcs. Mae Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru ar ei rhaglen Beti a'i Phobl, ac yr wythnosdiwetha tro Cat Jones, Pennaeth Hub Cymru Africa oedd hi. Dyma Cat yn sôn am yr adeg pan benderfynodd hi fynd i India ar ei phen ei hun pan oedd hi'n ddeunaw oed..."

Yr Odliadur - Elan Closs Stephens

odli - to rhyme
ymenyddol - intellectual
cynganeddion - form of Welsh poetry
ei allu cyfrifiadurol - his coputer expertise
cymorth i feirdd Cymru - help to Welsh poets
oes - an age
yn llythrennol - literally
mewn amser byrrach - in a shorter time
ail-osod - to re-set
ei sylfaen o - its foundation

Cat Jones oedd honna yn rhoi darlun clir o beth welodd hi pan aeth hi i India yn ddeunaw oed. Dach chi'n un da am odli? Peidiwch â phoeni os dach chi'n cael trafferth dod o hyd i odl, mae na help ar gael - Yr Odliadur. Llyfr ydy hwn sydd yn rhestri geiriau sydd yn odli efo'i gilydd. Roy Stephens wnaeth ysgrifennu'r llyfr ac roedd yna raglen arbennig am Yr Odliadur ar Radio Cymru yr wythnos diwetha. Dyma i chi glip o weddw Roy Stephens, Elan Closs Stephens, yn sôn sut aeth o ati i sgwennu'r geiriadur arbennig yma.

Cofio - Eidalwyr

o dras Eidalaidd - from Italian stock
gwahaniaeth - difference
fel petai - so to say
mwy o ofal o'u golwg - more attention to their appearance
crand - posh
cynllunwyr ffasiwn - fashion designers
gofynion Eidalaidd - Italian expectations
ogleuo - to smell
drych - mirror
balch - vain

"Felly dyna sut mae'r beirdd yn ffeindio'r geiriau cywir! Cofiwh am yr Odliadur os dach chi'n teimlo fel sgwennu cerdd a chystadlu yn yr Eisteddfod. Be ydy'r gwahaniaeth rhwng dynion o Gymru a dynion o'r Eidal? Dyna ofynnodd John Hardy i Gisella Crabtree sydd o dras Eidalaidd, ond sydd erbyn hyn yn byw ym Methesda yng Ngwynedd. Dyma oedd ganddi i'w ddweud..."

Bore Cothi - Te Macha

Oed Crist - AD
joch fach - a little slurp
canrifoedd - centuries
llachar - bright
yn gyfarwydd ag e - familiar with it
gorchuddio - to cover
cyn y cynaeafu - before the harvesting
pwysau gwaed - blood pressure
ei falu'n fân - finely shredded
pys potsh - mushy peas

"Dan ni mynd i aros dramor am y clip ola ond i Japan y tro 'ma. Mae na bob math o de ar werth y dyddiau yma yn does, te gwyrdd, te mint ac wrth gwrs y te dan ni wedi arfer ei yfed yng Nghymru. Ond te Macha oedd yn cael sylw ar Bore Cothi yr wythnos diwetha, a dyma Hannah Roberts i sôn am y te arbennig hwn o Japan... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dyfodol Gareth Bale yn Real Madrid

Nesaf

Cwpan Y Byd Rwsia 2018