Doeddwn i ddim yn si诺r iawn faint o awch na brwdfrydedd oedd gen i ar gyfer dilyn Cwpan y Byd eleni.
Y Siom o fethu a gweld Cymru yno, yna absenoldeb gwledydd fel yr Eidal a’r Iseldiroedd yn lleihau safon ?
Ond, o fewn un dydd, mae pethau cynnar wedi codi’r awydd i sodro fy hun o flaen y teledu am fis cyfan a thrio a pheidio â methu unrhywbeth.
Synnwyd fi ddoe gan berfformiad Rwsia, pum gol yn erbyn Saudi Arabia, o’n dyna, synnwyd fi gan anfedrusrwydd yn Saudi hefyd. Be’ ar wyneb y ddaear mae’r tîm yma yn ei wneud mewn cystadleuaeth o’r fath yma? Allai fyw efo'r ffaith na lwyddodd Cymru i gyrraedd yno oherwydd canlyniadau, ond petai Gymru wedi chwarae’r Saudis ddoe fe fyddwn i wedi eu curo gydag o leiaf saith gol o wahaniaeth!
Ond dyna ni, mae’r Rwsiaid yn hapus a gydag Wrwgwai a’r Aifft eto i ddod, hwyrach mai nos Iau oedd yr adeg orau i'r tim cartre!
Yna, pwy fyddai wedi meddwl y byddai Sbaen wedi ein hymddiddori cymaint â hynny cyn cicio pêl.
Collodd eu rheolwr ei swydd ganol wythnos a hynny am ei fod wedi cyfuno i gael ei benodi yn rheolwr newydd ar Real Madrid,
Ymddengys nad aeth hyn i lawr yn rhy dda gyda swyddogion corff cenedlaethol Sbaen, a honnodd fod popeth wedi digwydd y tu ôl i'w cefnau, ac felly, ymaith Lopetegui, ymaith.
Tydi Real ddim yn dod allan o hyn yn rhy dda chwaith, gyda’r wasg yn Sbaen yn credu fod gweithrediadau Real wedi tanseilio gobeithion y tîm cenedlaethol ar yr adeg waethaf bosib.
Yna, fe ddwedodd un gohebydd ar ddiwedd y cyfweliad ddydd Iau, - a fyddai'r un peth wedi digwydd petai hyn heb fod yn Real Madrid? Yr ateb? - cwestiwn da.
Mwynhewch y cystadlu.
Edrych mlaen rwan i gem Sbaen wrth iddyn nhw wynebu eu cymdogion, Portiwgal! Tybed a fydd gan Cristiano Ronaldo rhywbeth i’w gynnig ynghanol y ffiasco!