Main content

Canu yn Old Trafford

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Roeddwn i yn Old Trafford nos Iau yn gwylio Manchester United yn curo’r tîm a gurodd Cei Connah - sef Partizan Belrade yng Nghwpan Ewropa.
“Theatr y breuddwydion” oedd y lle yn cael ei alw yn nyddiau Syr Alex Ferguson, ond d’oes yna fawr o freuddwydio’n mynd ymlaen yno heddiw - os nad wrth gwrs am y gorffennol!


Ond, mewn cornel fechan, rhyw gilcyn o ddaear mewn cilfach gefn, wel yng nghornel y Streftord End a dweud y gwir, roedd yna griw o gefnogwyr a oedd, yn edrych fel tipyn o boen i'r rhai sy’n credu mewn trefn!


Na, nid am eu bod yn creu helyntion, ond am mai yma mae lleoliad yr hyn a gaiff ei alw’n fangre’r canu sef y ‘singing section’.
Wel os fu unrhyw beth erioed yn arwydd neu symbol o'r hyn sydd o’i le mewn pêl droed gyfoes, dyma’r lle!.


Diffyg awyrgylch yw ail fodolaeth y fangre gerddorol yma, wel nid gwehilion y genedl Manciwnaiddd mae’n amlwg, ond cris cymanfaol a gyflwynodd can ar ôl can, yn undonog a diflas, ac i fod yn hollol onest, roeddwn i wedi ‘laru ers talm ar glywed grwn, y cefnogwyr yma’n cadw s诺n.
Creu awyrgylch sydd wedi diflannu oedd y syniad, awyrgylch sydd, os ewch a ddaw i gaeau pêl droed eraill, yn parhau yn fyw er enghraifft Parc Goodison neu Anfield, neu hyd yn oed Yr Ofal yng Nghaernarfon.


Ond na, yma ym myd breuddwydion y cefnogwyr corfforaethol, a’r ymwelwyr tramor sydd yn ei heidio i wireddu eu breuddwydion, does yna fawr o awyrgylch gwreiddiol a chymunedol er waethaf y caneuon electronaidd ar gychwyn y gêm, yn ein hatgoffa fod y ‘Country Roads’ yn arwain i Old Trafford.


Na, awyrgylch wedi ei cholli ynghanol chwant y byd corfforaethol sydd o gwmpas y lle erbyn hyn - a bod cyfraniad y cefnogwr wedi cael ei wthio fel rhywbeth gwaharddedig a’i gyfuno i gornel ddi-nod, i gynhyrchu canu artiffisial sydd a wnelo ddim a'r hyn sy’n digwydd ar y cae.
Os felly. Wrth chwilio am y lleferydd a chan y cefnogwyr, ewch am dro, i’ch cynefin cynt le welwch ddychymyg yn drefn ar hyd y lle, yn Goodison, Anfield a hefyd yn y 'dre' fe glywch grafangau'r Blue Boys, y Scowsars a’r Cofis yn dirdynnu eich bron fel cymanfa gymunedol undebol yn gorws llon.


Duw a’n gwaredo, ni allwch ddianc rhag hon.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 6ed o Dachwedd 2019

Nesaf

Azerbaijan v Cymru - Rowndiau Rhagbrofol Ewro 2020