Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 6ed o Dachwedd 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Ffobia

Calan Gaeaf - Halloween
Diffinio - To define
Afresymol - Unreasonable
Corrynnod/pryfed cop - Spiders
Damcaniaeth - Theory
Deillio - To derive
Dychryn - To frighten
atal yn digwydd - a suppression happening
yn yr isymwybod - in the subconcience
Nadroedd gwenwynig - Poisonous snakes

Clip o raglen Aled Hughes ar fore Calan Gaeaf.

Nic Parry oedd yn cyflwyno'r rhaglen ac mi fuodd e'n holi'r seicolegydd Nia Williams o Brifysgol Bangor am ffobias.

Dechreuodd drwy ofyn beth yn union sy'n achosi ffobias.

Yr Hanner Call - Hapusrwydd

hapusrwydd - happiness
gwerth ei fyw - worth living
tanio - to ignite
wrth reddf - instinctively
gwên - a smile
ers talwm - in the past

Ac mi awn ni ddigon sydyn o'r ffobias annifyr i sôn am hapusrwydd.

Dyna oedd thema rhaglen olaf y gyfres Yr Hanner Call a'r cwestiwn ofynodd Heddyr Gregory i'w gwesteion, Dr Teleri Roberts, Helen Scutt a'r awdures Bethan Gwanas oedd 'Beth yn union sy'n ein gwneud ni'n hapus?' Dyma Bethan Gwanas i ddechrau.

Rhaglen Ifan Evans - Pobol y Cwm

llifo - flooding
atgofion melys - fond memories
cyfnod - period
sawl ergyd - many blows
perthynas - relationship
cannwyll ei llygad (idiom) - apple of her eye
cyhuddo o dreisio - accused of raping
euog - guilty
cafodd ei bwnio - he was beaten
difrifol - serious

Doedd bywyd un o gymeriadau Pobol y Cwm, Doreen Probert, ddim yn un hapus iawn.

Hi oedd metron Bryn Awelon, cartref henoed y gyfres a Marion Fenner oedd yr actores oedd yn ei phortreadu.

Dyma Marion yn sôn am rai o'r pethau trist ddigwyddodd i Doreen yn y gyfres, ond mae hi'n dechrau gyda stori ddoniol amdani h'n ymarfer un olygfa gyda'r actores Rachel Thomas.

Rhaglen Lisa Gwilym - Kizzy Crawford

newydd darganfod - just discovered
awtistig - autistic
ymdopi â - to cope with
cyflwr - condition
dechrau sylweddoli - starting to realise
cyfansoddi - to compose
derbyn fy hun - accept myself
cwsg - sleep
esbonio - to explain
rhyddhad mawr - a huge relief

Marion Fenner oedd honna ar raglen Ifan Evans yn sôn am un o gymeriadau Pobol y Cwm ers stalwm - Doreen Probert.

Mae'r gantores Kizzy Crowford newydd ddarganfod ei bod yn awtistig.

Dyma hi ar raglen Lisa Gwilym yn esbonio wrth Bethan Elfyn sut mae hi wedi dysgu ymdopi â'r cyflwr.


Daniel Glyn - Cwestiwn gwirion

hollol ddwl a gwirion - completely stupid and silly
boddhad - pleasure
lle ges i fy magu - where I was brought up
golygfa - scenery
yr Wyddfa - Snowdon
ym mlaen ty fy rhieni - in the front of my parents' house

Kizzie Crawford yn fan'na yn sôm am sut mae hi'n ymdopi ag awtistiaeth.

Unwaith eto roedd Daniel Glyn yn gofyn cwestiwn hollol ddwl a gwirion i'w westai.

Y gwestai oedd Ynyr Roberts o'r grwp Brigyn a gofynnodd Daniel iddo fe pa yw ei hoff ffenest!


Bore Cothi - Jacob Davies

stori arswyd - horror story
synnwyr - sense
anadl - breath
tafoli (idiomatic) - showing (lit: weighing)
pedair ugain yr awr - 80mph
ar fy ngwar - on my neck
distawrwydd llethol - total silence
wedi meddianu - had occupied
anweledig - invisible
dros y dibyn - over the precipice

Oes hoff ffenest gyda chi? Dych chi wedi meddwl am hynny erioedl?

Wel o leia dyn ni'n gwybod nawr beth yw hoff fenest Ynyr Roberts!

Ac i orffen - stori arswyd ar Bore Cothii dydd Calan Gaeaf.

Dyma Jacob Davies yn sôn am ddigwyddiad mae'n dal i'w gofio, pan oedd yn gyrru adre dros y mynydd ger Llanymddyfri.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Canu yn Old Trafford