Main content

Mae Ramsey ar y ffordd i Juventus!

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ar ôl yr holl ddyfalu, mae’n ymddangos y bydd Aaron Ramsey ar ei ffordd i Juventus yn yr Eidal ar ddiwedd y tymor.

Wedi gwasanaeth ffyddlon o ddeng mlynedd mae’r Cymro yn ymadael ac Arsenal , yn bennaf yn ôl pob son, gan nad yw dull ei chwarae yn ffitio’r patrwm a fynnai’r rheolwr presennol Unai Emery ei chwarae.

Cymaint felly, fel tipyn o syndod yw bod Emery yn ymddangos fod gwell ganddo weld Mezut Ozil ynghanol y cae yn hytrach na Ramsey. Wel, fo ydi’r rheolwr, a’i ddewis o ydi hynny !

Ond os nad yw Arsenal angen y Cymro mewn rôl allweddol yn y dyfodol, mae cyfarwyddwyr Juventus yn barod i'w groesawu, a thrwy drosglwyddiad am ddim, a chytundeb sy’n werth £36 miliwn dros y 5 mlynedd, feiddiwn ni ddweud fod hon yn dipyn o fargen i Juve? A nid dyma’r tro cynta iddyn nhw gael bargen debyg o feddwl am Fabio Cannavaro, Andre Pirlo, Paul Pogba, Kingsley Coman, Sami Khedira a Dani Alves, mi wnaeth rheina adael eu marc yn Stadia Allianz.

Ond sut bydd Ramsey yn cyfarwyddo â’r clwb enwog yn Turin ? Y sôn ydi fod Juve yn bwriadu chwarae Ramsey ynghanol cae gyda Miralem Pjanic a Blaise Matuidi. Gydag Arsenal a Chymru mae wedi profi sawl tro ei fod o’n gallu bod yn gadernid ganol cae, a mae ei broffesiynoldeb fel chwaraewr wedi’w amlygu droeon dros y tymhorau gyda’r Gunners.

Ers i Cristiano Ronaldo ymuno ac Juve, mae Max Allegri, y prif hyfforddwr, wedi newid y ffordd mae’r tîm yn chwarae. Trwy ymosod mae o wedi annog y chwaraewyr i groesi’r bel i’r cwrt cosbi, er mwyn cymryd mantais o gryfder Ronaldo yn yr awyr. Gall hynny weddu’n berffaith i’r ffordd mae Ramsey yn chwarae hefyd. Sawl gwaith ydan ni wedi’w weld yn torri trwy’r amddiffyn a chyrraedd y cwrt cosbi ar union yr adeg iawn i dderbyn croesiad a sgorio? Yn ogystal â’i fygythiad yn y cwrt cosbi, mae o hefyd yn basiwr pêl celfydd. Dychmygwch o ganol cae yn dod o hyd i Ronaldo neu Dybala, â’r ddau’n manteisio ar y bas ac yn ffeindio cefn y rhwyd...mae’n dod a d诺r i’r dannedd!

Wrth gwrs nid dyma’r Cymro cyntaf i ymuno a Juve, faint ohonoch sydd yn cofio'r diweddar John Charles yn ymuno ymhell yn ôl yn y pumdegau ac yn un o arloeswyr cyntaf fel tramorwr o Brydain yn codi ei bac ac ymuno a chlwb tramor. Yn hawlio tri theitl cynghrair Serie A a dau Coppa Italia yn ei gyfnod o bum mlynedd gyda’r clwb, fe wnaeth y cawr o bel-droediwr o Abertawe chwarae mewn mwy nag un safle ar y cae. Cafodd ei enwi ar restr La Vecchia Signora i fod ymhlith y chwaraewr tramor gorau dros gyfnod o gan mlynedd i wisgo’r crys streipïog du a gwyn.

Charles oedd yr “Il Gigante Buono” a hynny oherwydd ei daldra o 6 troedfedd 2 fodfedd wrth iddo oresgyn uwchlaw y mwyafrif o’i gyfoedion ar y cae, ac er ei faint, yr oedd ei wyleidd-dra fel chwaraewr yn rhywbeth i’w glodfori. Yn wir, fe dreuliodd ei gyfnod yn Turin heb i’w enw gael ei roi yn llyfr y dyfarnwr.

A’r ail Gymro i fentro i Turin oedd Ian Rush. Er taw gyda Lerpwl mae rhywun yn tueddu i gysylltu enw’r chwaraewr eiconig o Sir y Fflint, fe iddo yntau dreulio cyfnod gyda Juve, a hynny rhwng 1986-88. Yn wahanol i John Charles, cyfnod digon anodd gafodd Rushie yn Turin wrth iddo gael trafferth setlo yn y clwb oherwydd iddo ffeindio dysgu’r Eidaleg yn anodd, a methu delio gyda’r newid diwylliannol. A dyna pham taw dim ond tymor y bu gyda’r clwb, er iddo fynegi’n ddiweddarach fod ei brofiad gyda Juve wedi’w wneud yn well chwaraewr yn dactegol. Yn ei eiriau “er roedd gena’i hiraeth am adre, mi oedd chwarae i Juventus yn un o’r pethau gorau wnes i yn fy mywyd!”

Pob hwyl felly i gapten Cymru, gydag ef yn Juve a Gareth Bale yn Real Madrid, gallwn fel Cymry fod yn falch fod dau o sêr ein gwlad yn chwarae i glybiau mor eiconig - a thybed a fydd Arsenal yn gweld ei golli yn y dyfodol?

Amser a ddengys.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf