Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - Ionawr 1af-11eg 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dewi Llwyd ar fore Sul - Olwen Dunets

milwyr - soldier
antur - adventure
ewythr - uncle
ysgol wledig - a rural school
wedi eich denu chi - had attracted you
ddaru ni - wnaethon ni
yr un ysgol - the same school

Mae Olwen Dunets yn byw yng Nghanada ers saithdeg mlynedd ac mae hi'n dathlu ei phen-blwydd yn gan mlwydd oed eleni. Hi oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd yr wythnos diwetha. Dyma i chi flas ar y sgwrs, gyda Dewi'n gofyn iddi hi pam aeth hi i Ganada yr holl flynyddoedd yn ôl.

Rhys Meirion - Elin Fflur

eitha amlwg - quite obvious
yr wythdegau - the eighties
gormod o sylw - too much attention
breuddwydio - dreaming
trwy gyfnodau - through periods
hogan - merch
TGAU - GCSE
cambihafio - misbehaving
ffashiwn row - such a row
bai fi oedd o - it was my fault

Can mlwydd oedd, pwy fasai'n meddwl? Pen-blwydd hapus iawn i Olwen Dunets ynde?. Roedd rhaid i Rhys Meirion godi'n gynnar yr wythnos yma achos bod Aled Hughes ar ei wyliau. Mi gafodd o gwmni diddorol trwy'r wythnos a bore Mercher y gantores Elin Fflur oedd yn cadw cwmni iddo fo. Gofynodd Rhys i Elin oedd hi wedi isio bod yn berfformwraig erioed.

Ar Y Marc - Cefnogwyr pêl-droed

cefnogwyr - fans
trafod - to discuss
pa mor bwysig - how important
yng ngofal - in the care of
arwr - hero
eithriadol bwysig - exceptionally important
cymdeithasu - socialising
camgymeriadau - mistakes
Cymdeithas Pel-droed - Football Association
hyrwyddo - to promote

Elin Fflur yn amlwg yn berfformwraig naturiol pan oedd hi'n ferch fach. Mae Neil Jones yn un o gefnogwyr clwb pêl-droed Caerdydd ac mae o eisiau cyfarfod mwy o gefnogwyr sy'n siarad, neu sy'n dysgu Cymraeg. Pam bod hyn yn bwysig iddo fo? Dyma fo'n esbonio ar 'Ar y Marc' .

Taro'r Post - Vaughan Williams

Caergybi - Holyhead
digon teg - fair enough
annog - encouraging
magu hyder - gaining confidence
nodweddiadol - characteristic
gwrthod - to refuse
diffyg hyder - lack of confidence
cofnod - a record
bob yn ail - every other
adborth - feedback

Wel gobeithio bydd llawer o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn cefnogi Neil, ac yn cwrdd yn y dafarn ynde? Aran Jones o Say Something In Welsh oedd y llais arall wnaethoch chi glywed ar y clip yna. Mae Vaughan Williams o Gaergybi wedi rhoi targed iddo'i hun ar ddechrau'r flwyddyn, i fyw ei fywyd trwy'r flwyddyn drwy'r Gymraeg. Mi wnaeth Gari Owen ofyn iddo fo beth mae o'n obeithio fydd yn digwydd.

Taro'r Post - Sialens Vaughan

trwy gyfrwng - through the medium of
herio - to challenge
profiad - experience
cyfoethog - rich
cyfarch - to greet
peswch - a cough
gwasanaethau iechyd - health services
safonau - standards

Pob lwc i Vaughan ynde, ond beth mae'r Comisiynydd Iaith, Meri Huws, yn feddwl o hyni gyd? Dyma hi ar Taro'r Post.

Rhaglen Geraint Lloyd - Anwen Harman

wedi cael ei enw - named
sodro - to dump
golwg druenus - a pitiful state
efeilliaid - twins
meddwl yn ddwys iawn - to think very carefully

Meri Huws, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn siarad ar Taro'r Post am syniad Vaughan Williams o Gaergybi i wneud popeth yn Gymraeg. Anwen Hardman o Garmel ger Caernarfon oedd gyda'r het ar raglen Geraint Lloyd wythnos yma. Dyma hi'n sôn am rai o'i hanifeiliaid a'u henwau diddorol.

Byd Iolo - crocodeil

yr hesg - the rush
cyntefig - primitive
sgleinio - shining
Argo Dafydd - Goodness me
cyn oes y deinosoriaid - before the age of the dinoours
ffroen - nostril
modfedd - inch
arogli - smelling
unrhyw symudiad - any movement
yn 'amen' arna i - that would be the end of me

Mae gan Anwen sw bach yng Ngharmel 'swn i'n meddwl! Dw i ddim yn meddwl bod ganddi grocodeil yn ei gardd gefn chwaith! Ond dyna welodd Iolo Williams pan oedd o yn Namibia. Dyma i chi glip o raglen Byd Iolo pan dddaeth o ar draws crocodeil yn y jyngl.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Mae Ramsey ar y ffordd i Juventus!

Nesaf

Marcelo Bielsa yn ysbio ar ei wrthwynebwyr