Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg: Tachwedd 17eg-24ain 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Ar y Marc - C'mon Midffild

Yr Arglwydd yw fy mugail - The Lord is my shepheard
y rhan fwyaf - most
dyfynnu - to quote
cymeriad chwedlonol - mythical character
ysbrydoliaeth - inspiration
yn uniongyrchol - directly
agwedd - attitude
y llinell anfarwol - the unforgettable line
mewn ar ei ben - straight in
fel ag yr oedd hi - exactly as it was

Un o'r rhaglenni mwya poblogaidd fuodd ar S4C erioed oedd C'mon Midffild. Comedi am dîm pêl-droed Bryncoch oedd hwn, tîm oedd yn cael ei reoli gan Arthur Picton. Mae na 30 mlynedd ers i'r rhaglen gael ei dangos ar S4C gyntaf. Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan Alun Ffred a Mei Jones ac mi gafodd criw Ar y Marc sgwrs efo Alun Ffred ar eu rhaglen ddydd Sadwrn diwetha. Roedd gan Alun Ffred un stori arbennig iawn am 'Yr Arglwydd yw fy mugail'.

Rhaglen Lisa RC2 - Gwin

grawnwin - grape
blasau cryf - strong flavours
asidaidd - acidic
selsig - sausage
melysrwydd - sweetness
aeddfed - mature
meddalu rhywfaint - soften somewhat
derw - oak
cnau - nuts
corff - body

Ac mae'n bosib i chi weld C'mon Midffîld ar wefan Cymru Fyw. Wel mae'r siopau yn llawn o'r Nadolig yn barod yn tydyn? A dydy hi ddim ym mis Rhagfyr eto! Dach chi wedi meddwl am eich cinio Nadolig eto? Neu yn bwysicach efallai - y gwin i fynd efo'ch cinio. Ar raglen Lisa ar Radio Cymru 2, mi glywon ni farn Dylan Rowlands yr arbenigwr gwin o siop Dylanwad yn Nolgellau ar y gwin gorau i fynd efo'ch twrci.


Rhaglen Geraint Lloyd - Ken Thomas

elusen - chatity
ail-gylchu nwyddau rygbi - recycling rugby goods
gwasanaeth sifil - civil service
gwirfoddoli - to volunteer
cyd-lynydd - co-ordinator
danfon - to send
tyfu mas - to gow out of
tairgwaith mewn tymor - three times a season
tueddu - tend to
llwythau - loads

Wel, dyna fo, dan ni'n gwybod rwan pa win i gael efo'n twrci neu hyd yn oed efo'r nut roast! Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Ken Thomas ddydd Mercher. Mae Ken yn helpu'r elusen SOS Kit Aid i ail gylchu nwyddau rygbi ac eu gyrru nhw ar draws y byd i blant a phobl gael y cyfle i chwarae'r gêmi. Dyma fo'n dweud mwy am y gwaith.

Melin Bupur - Guto Dafydd

Melin Bupur - Pepper Mill
dwyn - to steal
gwasgu mewn - squeeze in
crwydro o gwmpas - wander around
dychmygu - imagining
llwybrau - paths
cysgodol - shadowy
twyni tywod - sand dunes
wastad - always
sbio - edrych

Ychydig o hanes gwaith da Ken Thomas efo'r elusen SOS Kit Aid yn fan'na. Cyfres newydd i Radio Cymru ydy Melin Bupur ac ar y rhaglen wythnos yma clywon ni'r awdur Guto Dafydd yn dweud sut mae o'n cael y syniadau ar gyfer ei nofelau.

Taro'r Post - David Attenborough

ymyrryd - to inervene
achub cywion - to save chicks
pa ddaioni - what good?
dagrau mawr - big tears
cyffwrdd - to touch
edmygu - to admire
hynod iawn - remarkable
ffawd - fate
rheol - rule
beichio crio - to cry ones eyes out

Byddwch yn ofalus felly os dach chi'n gweld Guto Dafydd yn jogio yn eich ardal chi. Mae'n bosib byddwch chi'n rhan o'i nofel nesa fo! Ydych chi'n licio rhaglenni natur? Mae rhaglenni David Attenborough yn rhai poblogaidd iawn ond mae ei raglen Dynasties wedi codi llawer o gwestiynau. MI wnaeth y tîm oedd yn gweithio ar y rhaglen ymyrryd i achub cywion pengwyniaid oedd mewn peryg o farw. Oedd ymyrryd fel hyn yn iawn neu ddylid adael i fyd natur ddilyn ei gwrs naturiol? Dyma gwestiwn ofynwyd ar Taro'r Post a dyma chi ymateb Wena Roberts o Benygroes yng Ngwynedd.

Rhaglen Ifan Evans - Eurovision

cynrychioli - represent
cystadleuaeth - competiton
digon o glonc - plenty of gossip
gohebu - reporting
cuddio - hiding
yn groten hyfryd - a lovely girl
profiad bywyd - life experiences
cyhoeddiad - announcement
rhyngwladol - international
cymryd at - to take to

Dydd Sul Tachwedd 25ain buodd Manw Lili yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Eurovision pobl ifanc. Mi ganodd Manw yn dda iawn, ond yn anffodus wnaeth hi ddim ennill. Mae Stifyn Parri yn un o fentoriaid y gyfres ac yn nabod Manw yn dda. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo ddydd Mercher.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

G锚m Albania v Cymru

Nesaf

Croeso i d卯m cenedlaethol Kernow