Main content

Croeso i d卯m cenedlaethol Kernow

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

‘Nol ym mis Mawrth, fe gyfeiriwyd yn y blog yma am dîm rhyngwladol Swydd Efrog a gafodd ei sefydlu a’i dderbyn i fod yn aelod o gorff amgen y byd pêl droed, sef ConIFA, (Cydffederasiwn Cymdeithasau Pêl-droed Annibynnol) sy’n cynnal gemau i bob gwlad neu ranbarth ar draws y byd sydd ddim yn cael eu cydnabod gan FIFA.

Mae'r sefydliad yma yn un sy'n cefnogi cynrychiolwyr o dimau pêl-droed rhyngwladol o genhedloedd de-facto, rhanbarthau, pobl leiafrifol a thiriogaethau na chaiff eu cynnwys mewn chwaraeon.

Sefydlwyd ConIFA yn 2013, a chynhaliwyd eu cystadleuaeth Cwpan Pêl-droed cyntaf ym mis Mehefin 2014 yn Ostersund, Sweden. Swydd ardal Nice (Ffrainc) a enillodd, gan guro Ellan Vannin (Ynys Manaw) yn y ffeinal, ond eleni, mae yna dim newydd wedi llwyddo i ennill eu lle o fewn cyfundrefn ConIFA.

Croeso i dîm cenedl Cernyw (Kernow), ac, fel pob tîm arall, o fewn ConIFA, mae’r rheolau o sicrhau fod chwaraewyr yn gymwys yn cynnwys cael eu geni yn y rhanbarth ac mae’n ofynnol i wlad / ranbarth ddangos fod ganddynt ddiwylliant a thraddodiad hanesyddol ac unigryw ac yn sgil hyn mae Cernyw, fel Swydd Efrog ac Ynys Manaw, wedi cael eu derbyn fel aelodau.

D’oes dim tîm proffesiynol yng Nghernyw. Yr agosaf i hyn yw tîm rhan broffesiynol Dinas Truro sydd yn chwarae yn Adran y De o Gynghrair Genedlaethol Lloegr, er eu bod yn chwarae eu gemau cartref eleni yn Torquay (80 milltir i ffwrdd) tra bod eu stadiwm yn cael ei ail adeiladu fel newydd (Stadiwm Cernyw) ar gyfer pêl droed a rygbi.

Maent, ar hyn o bryd, yn debygol o dynnu eu chwaraewyr o dimau sy’n cystadlu yng nghynghrair Penrhyn y De Orllewin (sydd yn y chweched rheng o fewn trefn pêl droed y tu allan i'r prif gynghreiriau yn Lloegr)

Cam cyntaf Kernow fydd cymhwyso ar gyfer cystadlu yng Nghwpan Pêl droed Ewrop (i dimau ConIFA) y flwyddyn nesaf, drwy gasglu pwyntiau i ddangos eu cymhwyster i gystadlu, yn ogystal â’u safon mewn gemau cyfeillgar. A chyda Swydd Efrog, Ynys Manaw, a Jersey o fewn cyrraedd, fe fydd yna ddigon o gyfleoedd iddynt wneud eu hunain yn adnabyddus.

Gobeithir cynnal y gêm gyntaf ym mis Ionawr, cyn cystadlu mewn twrnament yn Frankfurt

yn yr Almaen, yn nes ymlaen yn y flwyddyn newydd, a’r Gwpan Ewropeaidd yn darged ar gyfer mis Mehefin.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar am hynt a helynt tîm cenedlaethol Kernow – chons da!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

T卯m Hyfforddi Wrecsam