Main content

Y Ffenestr Drosglwyddo

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A dyna ffenestr drosglwyddo arall drosodd a mesur y cynnwrf yn cael ei adlewyrchu wrth i rai o’r cyfryngau wirioni drwy weld Peter Crouch yn ymuno ag uwch gynghrair Lloegr unwaith eto, tra bod Sam Vokes yn debygol o gael fwy o gemau yn ystod gweddill y tymor wrth iddo gymryd lle Crouch yn Stoke.

Distaw hefyd yn uwch gynghrair Cymru hyd yn hyn, ond mae dulliau o ddenu chwaraewyr atoch yn hollol wahanol i'r hyn a fu.

Ond roedd yna reolau, a rheolau a ffydd o oresgyn rheolau.

Lawer tymor yn ôl, roeddwn am arwyddo dau chwaraewr o'r un clwb ataf i Dreffynnon (o glwb dros y ffin yn Lloegr), ond doedd hyn ddim heb ei drafferth.

Ymddengys fod y clwb o Loegr, ble roedd y ddau yn chware, yn hollol, fodlon i adael un i fynd, ond ddim y llall, ac yn mynnu, oes oedd am ymadael, yna nid ataf fi, yn Nhreffynnon, oedd am ddod (mae’n rhaid nad oeddynt yn meddwl llawer am allu'r un arall!)

Ond mae yna fwy nag un ffordd o gael Wil i'w wely, neu beldroediwr i drosglwyddo.

Cefais sgwrs gyda chyfaill i mi a oedd yn rheolwr ar dîm arall yng ngoledd Cymru (mewn cynghrair is na Chynghrair Cenedlaethol Cymru), gan ofyn iddo a fyddai yn fodlon arwyddo'r cyfaill yma dros y ffin.

Popeth yn iawn, dim ffi trosglwyddiad, dim trafferth, a phan wnaethpwyd y cysylltiad, roedd clwb y cyfaill yn fwy na pharod o gael gwared ohono, a hynny i unrhyw glwb heblaw Treffynnon, ac fe gwblhawyd y trosglwyddiad.

Nawr, yn ôl yn yr adeg hynny, roedd gennych hawl i arwyddo, yma, yng Nghymru i ddau dim os oeddych yn chwaraewr heb gytundeb (sef chwaraewr amatur). Felly, gyda rhyddhad rhyngwladol o Loegr i Gymru, wedi ei drefnu gan y Gymdeithas Bel Droed, a’r ffordd wedi ei glirio i’r chwaraewr ymuno a thîm yng Nghymru, aeth popeth yn ei le yn hollol lyfn.

Doedd yna ddim ond un peth ar ol i'w gyflawni.

Sicrhau trosglwyddiad ein cyfaill newydd o’r clwb Cymreig newydd, draw i Dreffynnon, a hynny a fu!

Tipyn o st诺r dros afon Ddyfrdwy yn ôl y son, gyda chyhoeddiadau o dwyllo, gweithredu’n ddi-egwyddor a phopeth arall, o dan haul na feiddiad eu henwi!

Ond dyna ni, trosglwyddo hollol deg a chyfreithiol yn ôl y rheolau (er, cofiwch chi, fod pethau wedi newid ers hynny!)

Cafodd y chwaraewr gyfnod llewyrchus iawn yn Sir y Fflint cyn symud ymlaen i borfeydd brasach wedi, ar ôl cwymp Treffynnon, ond mae’n dal i gofio hanes y trosglwyddiad, a mawr oedd ei ddiolch.

Erbyn heddiw mae'r cyfaill yn hyfforddwr llwyddiannus iawn gydag un o brif dimau ein uwch gynghrair, a llawn mor gyfrwys yn ei allu i hyfforddi - tybed sut gafodd ei ddysgu?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf