Main content

Dyfodol a phoblogrwydd rhaglenni pel-droed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ydych chi, neu oeddech chi, yn casglu rhaglenni gemau pêl droed?

Roedd gen i lond trol, ond yn wirion iawn, fe roddais i nhw i gyd i ffwrdd rhai blynyddoedd yn ôl - a dwi wedi difaru byth ers hynny!

Mae rhai rhaglenni yn werth llawer i gasglwr, fel ffeinal Cwpanau Ewrop yn y pump a'r chwedegau.

Ond, ar gyfer y tymor nesaf, mae Cynghrair Pêl Droed Lloegr yn awyddus i ddod a’r arfer o orfodi clybiau i gyhoeddi rhaglen ar gyfer pob gem i ben. Hyn oherwydd y gost o'u cynhyrchu, a lleihad yn y gwerthiant. Fodd bynnag, maent yn argymell cynhyrchu rhaglenni ar gyfer y gemau hynny sydd yn cael eu hystyried yn bwysig.

Ond beth am y sefyllfa yng Nghymru?

Ar hyn o bryd , mae timau yn Uwch Gynghrair Cymru, a chynghreiriau Undebol Huws Gray yn y gogledd a Chynghrair De Cymru yn cyhoeddi rhaglenni ar gyfer pob gem a does dim son fod hyn am ddod i ben.

Fodd bynnag, faint o Gymraeg sydd yn cael ei gynnwys yna rhaglenni yma?

Mae bron pob tîm ar hyd a lled y cynghreiriau yn honni eu bod yn dimau neu glybiau sydd yn rhan annatod o’u cymunedau, ond a ydi hyn yn cael ei efelychu yn eu defnydd o'r Gymraeg, a chysylltiad y clwb a‘u holl ddilynwyr beth bynnag eu hiaith?

Mae rhaglen clwb Treffynnon, sy’n chware yng Nghynghrair Huws Gray, yn cynnwys tudalen yn y Gymraeg , felly hefyd Caerfyrddin, Aberystwyth a’r Barri yn Uwch gynghrair Cymru, gyda gwahoddedigion yn cael cyfrannu i raglen Aber, arfer dda sy’n cysylltu clwb yn agos gyda'u cymuned leol, ac agweddau o’r gêm ar draws Cymru gyfan.

Gall y rhaglenni fel yma ddangos defnydd gwerthfawr o’r Gymraeg fel rhywbeth gweithredol o fewn yr ardal, a hefyd ddangos fod lle amlwg i'r iaith o fewn eu cyfundrefn.

Beth yw'r sefyllfa gyda'ch tîm chi? Faint o Gymraeg sydd yn cael ei ddefnyddio yn gyhoeddus o fewn eich clwb, a gall hyn hefyd gynnwys y cyhoeddiadau llafar cyn, yn ystod ac ar ddiwedd gemau?

Mwy o negeseuon