Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Ebrill 29ain - Mai 5ed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Daear Fflat?

daear - earth
amlwg - obvious
llinell barhaus - a continuous line
atal - to stop
ffynhonell pob gwybodaeth - the font of all knowledge
honni - to claim
ei hamau nhw - to doubt them
hambwrdd crwn - a round tray
cyfandiroedd - continents
machlud - sunset

"...ydach chi'n un o'r bobl yna sy'n credu bod y byd yn fflat? Mae yna mwy a mwy o bobl yn credu hynny yn ol pob sôn. Mae yna filoedd o aelodau o gymdeithas y Flat Earthers ar draws y byd a channoedd wedi bod mewn cyfarfod yn Birmingham dros y penwythnos. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo'r cyn-athro daearyddiaeth Bryn Tomos am y syniad yma..."

Cofio - Ffarwelio

angladd - funeral
Gwyddel - Irishman
darlledu - to broadcast
claddu - to bury
ymgymerwr - undertakers
pabyddion - Roman Catholics
yn gyson - constantly
yn falch - pleased
ylwch! - look!
gwasanaeth - service

"Dw i'n meddwl ei bod yn saff i ddweud nad ydy Bryn nac Aled yn credu bod y byd yn fflat...Ffarwelio oedd thema’r rhaglen Cofio yr wythnos yma. Dyma i chi glip o D Hughes Jones o Lanelli yn cofio angladd Gwyddel ar y rhaglen ‘Hiwmor Mewn Du’ cafodd ei ddarlledu'n gyntaf yn 1993."

Rhaglen Geraint Lloyd - Tynnu rhaff

tynnu rhaff - tug of war
tynnu'r gelyn - tug of war
sioeau amaethyddol - agricultural shows
hollol o ddifrif - very seriously
pwysau - weight
cydweithio - to co-operate
gwahaniaeth - difference
syndod - a surprise
un symudiad - one movement
yn union - exactly

"Plesio pawb yn fan'na - y catholigion a'r gweinidog o Lanelli. Mae tynnu rhaff, neu tynnu'r gelyn mewn rhai ardaloedd, yn boblogaidd iawn mewn sioeau amaethyddol. Ac mae rhai pobl yn cymryd y gystadleuaeh yn hollol o ddifrif. Un o'r rheini ydy Caryl Haf Lewis a dyma hi'n sôn wrth Geraint Lloyd am y gystadleuaeth yn ardal Llanddewi Brefi ..."

Bore Cothi - Aberglasney

ailymweld - to revisit
aeddfedu - to mature
sawl ardal - several areas
cwblhau - to complete
mochdai - pigsties
adnewyddu - to renovate
deg erw - 10 acres
anhygoel - incredible
cynyddu - to increase
cynnal a chadw - maintaining

"Blas ar dynnu rhaff yn ardal Llanddewi Brefi yn fan'na. Roedd hi'n Wythnos Arddio 2018 wythnos diwetha a lle gwell i fynd iddo nag un o erddi brafia Cymru - Gerddi Aberglasney yn Sir Gaerfyrddin. A dyna le aeth Shan Cothi ddydd Llun, a chael taith o amgylch y gerddi gyda Elen Llywelyn…."

Rhaglen Dewi LLwyd - Heledd Cynwal

cwmpo'n feichiog - to become pregnant
casglu - collecting
mor dost - so ill
golygfeydd - scenes
godidog - stunning
lan y star - up the stairs
deg ar hugain - 30
yn llythrennol - literally
neidio allan o nghroen - jumped out of my skin
cofiadwy - memorable

"Dyma'r adeg i fynd i weld y gerddi anhygoel sydd gynnon ni yng Nghymru ynde, mae yna gymaint o liw i'w weld ym mis Mai yn does? Gwestai penblwydd rhaglen Dewi Llwyd yr wythnos yma oedd Heledd Cynwal. Mae ganddi stori am yr adeg pan wnaeth ei gwr, Ian, drefnu parti syrpreis iddi ar ei phenblwydd yn 30 oed! Bydd yn bosib clywed y sgwrs gyfan ar wefan rhaglen Dewi Llwyd."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Dyfodol Abertawe