Main content

Sgwrs i’r genedl dros ginio

Newyddion

Mae Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru wedi cyhoeddi rhaglen newydd dros amser cinio i gychwyn ym mis Tachwedd rhwng 12 a 2pm.

Bydd Dros Ginio yn wasanaeth newyddion a materion cyfoes i adlewyrchu Cymru heddiw gyda thîm o gyflwynwyr profiadol wrth y llyw.

Dewi Llwyd fydd yn cyflwyno ddydd Llun a Gwener, Jennifer Jones ddydd Mawrth, Vaughan Roderick ddydd Mercher a Catrin Haf Jones ddydd Iau.

Dywed Rhuanedd Richards, Golygydd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru: “Os bu angen erioed am raglen i graffu ar ddigwyddiadau’r byd o’n cwmpas, a hynny drwy lygaid y Cymry, dyma’r amser. Felly, rydym yn cyflwyno sgwrs i’r genedl dros ginio i drafod a mynd o dan groen stori fawr y dydd, yn ogystal â rhoi gofod i lais y gynulleidfa drwy wthio am ymatebion clir i’r cwestiynau caled i’n helpu i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas

“Ry’n ni’n gwybod, yn dilyn sgyrsiau gyda’r gwrandawyr eu bod yn mwynhau rhaglenni byw sy’n gallu symud yn gyflym i ymateb i newyddion. Os yw e’n bwysig i bobl Cymru, fe fydd lle i’w drafod ar y rhaglen – o’r diweddara gyda thrafodaethau Brexit i’r drafodaeth am newid hinsawdd. Dyma ddwy awr i ddal yr eiliad; yr eiliadau holl bwysig hynny sy’n diffinio’n byd heddiw.

“Yn ogystal â newyddion a materion cyfoes, bydd cyfle i drafod y celfyddydau, chwaraeon, yr arian yn eich poced a mwy. Mewn brawddeg; os yw’n fater o bwys i’r gwrandawyr bydd lle i’w drafod ar Dros Ginio.”

Dywed Dewi Llwyd, fydd yn cyflwyno Dros Ginio ddydd Llun a dydd Gwener: "Rydw i'n ystyried fy hun yn ffodus iawn y bydda i'n cael y cyfle arbennig hwn i drafod y byd a'i bethau dros ginio ddwywaith yr wythnos. Hyd yn oed wedi deugain mlynedd o ddarlledu mae wastad yn braf cael her newydd gyffrous. Mae cyflwyno'r Post Prynhawn am saith mlynedd, yn enwedig yn ystod cyfnod mor gythryblus, wedi bod yn anrhydedd, a daw mwy o gyfle fan hyn i dreiddio'n ddyfnach i wahanol feysydd o wleidyddiaeth i'r celfyddydau, o chwaraeon i'r byd busnes. Dwi'n edrych ymlaen yn arw."

Dywed Jennifer Jones, fydd yn cyflwyno Dros Ginio ddydd Mawrth: “Mae’n fraint cael bod yn ôl yn rhan o dîm Radio Cymru. ‘Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at yr her o gael trin a thrafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnom ni gyd, a hynny yn ystod cyfnod tyngedfennol, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol. Ond fydd ‘na ddigon o gyfle i drafod pethau ysgafnach hefyd a chael thipyn o hwyl.”

Bydd Taro’r Post yn dod i ben yn ogystal â rhai o’r rhaglenni hanner awr a ddarlledir yn ystod amser cinio wrth i Dros Ginio ymgorffori rhai o’r pynciau oedd dan sylw yn y rhaglenni hynny. Bydd Benbaladr a Stiwdio yn cael eu darlledu fin nos yn ystod yr wythnos yn hytrach nag yn ystod y dydd yn ogystal ag ail-ddarllediad Talwrn y Beirdd.

Dywed Rhuanedd Richards: “Mae’n diolch ni’n fawr Garry Owen a thîm cynhyrchu Taro’r Post am yr hyn y mae nhw wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd. Bydd Garry yn parhau i fod yn aelod allweddol o wasanaeth newyddion yr orsaf a byddwn yn parhau i glywed ei lais. Hoffwn ddiolch hefyd i gyflwynwyr a thimau rhaglenni eraill yr orsaf dros amser cinio.”

Catrin Haf Jones, Vaughan Roderick, Jennifer Jones, Dewi Llwyd

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cynnal gemau cartre Cymru