Main content

Cynnal gemau cartre Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Torf dda, canlyniad boddhaol (o leiaf roedd yn fuddugoliaeth), ond perfformiad siomedig a llond trol o feirniadaeth - ia, dyna sut oedd pethau ar ôl i Gymru guro Azerbaijan nos Wener ‘diwethaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yna, gem gyfeillgar, eto yn y brif ddinas. Yn erbyn Belarws nos Lun - a chredwch fi, roedd yna ddigon o feirniadaeth am y gêm yna hefyd.

Na, nid am fod Cymru wedi ennill eu hail êm yn olynol, na chwaith am fod y perfformiad yma wedi bod yn well na’r un a welwyd nos Wener.

Na, nid am fod Cymru wedi ennill eu hail gêm yn ddilynol, na chwaith am fod y perfformiad yma wedi bod yn well na’r un a welwyd nos Wener.

Yr hyn sydd wedi codi gwrychyn llawer, ac yn sylw teg yn fy marn I, oedd y penderfyniad i chwarae'r gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd a - gêm a lwyddodd i ddenu fawr ddim mwy na ryw saith mil o dorf.

Gan fy mod wedi teithio i lawr i weld y gêm ar y nos Wener, doedd gen i fawr o awydd ail deithio eto fore Llun (a hwyrach aros dros nos neu gyrraedd adre berfeddion nos) i weld gem gyfeillgar, ac mae’n ymddangos fod llawer arall wedi bod o'r un farn.

Sail y gwyn ydi y gallai’r gêm gyfeillgar fod wedi cael ei chynnal ar y Cae Ras yn Wrecsam, a rhoi cyfle i lawer o bobl weld Cymru yn chwarae yn agosach i'w cartrefi, fel bu’r hanes yn y gêm yn erbyn Trinidad a Tobago ‘nol ym mis Mawrth o flaen torf o dros ddeng mil.

Byddai’r rhai na allai deithio i lawr i Gaerdydd ar y dydd Gwener, yn enwedig disgyblion ysgolion y gogledd ac oedolion a oedd yn gorfod teithio, fod wedi cael y cyfle i weld Cymru yn agosach at adre, ond na , doedd y cyfle ddim yno! Ac fe allaf eich gwarantu y byddai mwy na chwe mil wedi mynd am y Cae Ras i weld y gêm!

Yn hytrach fe gafwyd gêm i'r tîm o dan 21 oed ar gyfer cymhwyso i rowndiau terfynol cystadleuaeth UEFA 2021 - ac er bod hyn wedi rhoi cyfle i'r rhai ohonom a aeth yno i weld y Cymry ifanc, a hefyd doniau galluog yr Almaenwyr ifanc, fe fyddai’r gêm yma wedi gallu cael ei chynnal ar gaeau un o dimau cynghreiriau Cymru.

Tipyn o ddiffyg gweledigaeth dyblwn i ar ran y Gymdeithas yn yr achos hwn, (os nad oedd yna ryw reolau rhyngwladol yn golygu na ellir gwneud yn wahanol) a gobeithiaf yn arw am well trefniadau yn y dyfodol.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Sgwrs i鈥檙 genedl dros ginio

Nesaf