"Mae hi'n amser am stori.
Wyt ti'n clywed y cloc?
Gwranda di'n astud…tic toc…tic toc…"
Dyna'r geiriau fydd i'w clywed ar bob wythnos o Ddydd G诺yl Dewi ymlaen wrth i'r orsaf lansio gwasanaeth newydd i wrandawyr ifanc iawn - a'u rhieni neu ofalwyr, wrth gwrs!
Mae yn brosiect newydd cyffrous ar y cyd rhwng , a'r cwmni cynhyrchu, , a bydd yn gyfle i'r plant glywed hanesion am rai o gymeriadau hoffus rhaglenni ar S4C, y môr leidr Ben Dant a Dona Direidi yn eu plith, yn ogystal â straeon am gymeriadau dychmygol newydd.
Bydd y darlleniadau yn cael eu cyflwyno am saith o'r gloch bob nos Sul o Fawrth 1 gan gymysgedd o leisiau cyfarwydd - yn cynnwys Einir Dafydd a Gareth Delve, dau o gyflwynwyr gwasanaeth Cyw ar S4C, ac Aeron Pughe, sy'n chwarae rhan Ben Dant - ynghyd â nifer o leisiau newydd.
Bydd cymysgedd hefyd o awduron cyfarwydd a rhai newydd yn gyfrifol am y straeon, ac ymysg yr hanesion fydd i'w clywed yn ystod yr wythnosau cyntaf fydd "Ben Dant a Benji" gan Casia Wiliam, "Eisteddfod y Pysgod" gan Rhys Parry Jones ac "Ela a'r Afr" gan Anna Lisa Jennaer.
Mae'r prosiect yn un o'r ffyrdd y bydd Radio Cymru eleni yn nodi canmlwyddiant geni un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol Cymru, T Llew Jones. Dros gyfnod o amser bydd y straeon wythnosol yn cynnig cyfres sylweddol o ddarlleniadau gafaelgar ond syml, fydd yn rhoi cyfle i blant wrando ac ymgolli ym myd y stori ar amser rheolaidd a chyfarwydd bob wythnos.
Yn ogystal, bydd modd gwrando ar y straeon ar ar ôl y darllediad, a byddant hefyd ar gael i'w lawrlwytho am ddim fel podlediadau - cyfrwng sydd yn gynyddol boblogaidd, a bydd hyn yn sicrhau bod plant a rhieni yn cael rhwydd hynt i ail-wrando ar y straeon y maen nhw yn eu mwynhau. Cyn pen dim bydd trysorfa o ddeunydd sain ar gael ar gyfer y plant lleiaf.
Mae'n fwriad hefyd i gyhoeddi nifer o'r straeon mewn cyfrol fydd ar gael i'w brynu cyn diwedd y flwyddyn.