Main content

Ar Y Marc: Manchester Welsh

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Hwyrach fod darllenwyr Blog Ar y Marc yn gyfarwydd â sut mae gwreiddiau clwb Everton ynghlwm a thref Pwllheli, yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hanes Mary Thomas ydi hanes Everton, merch o Bwllheli a aeth i weini i Lerpwl, fel oedd yr arfer yr adeg honno, gan ymaelodi a chapel St. Domingo, priodi a Henry Cuff, sef sylfaenydd clwb pêl droed yr eglwys ac a ddatblygodd i fod yn glwb Everton ar ôl ychydig o flynyddoedd.

Ond mae yna ymchwil newydd wedi dod i’r golwg yn ddiweddar am ddylanwad y Cymry yn yr oes Fictoraidd, ar ddatblygiad pêl droed mewn dinas arall yng ngogledd orllewin Lloegr.

Wrth ddarllen llyfr 'Red Dawn', gan yr awdur Brian Belton am flynyddoedd cynnar Manchester United, fe ddois ar draws cyfeiriadau fod yna dim arall yn bodoli yn ardal Manceinion, tîm o safon dda, a allai fod wedi cyfrannu'n helaeth at ddatblygiad Manchester United.

Enw’r tîm, a oedd yn cystadlu a Newton Heath (rhagflaenwyr Manchester United) oedd tîm a oedd yn cael eu adnabod fel y Manchester Welsh.

Ymddengys fod y tîm yma wedi eu ffurfio tua’r flwyddyn 1888, pan gyfeirir atynt fel tîm sy’n ymddangos fel petaent newydd ei ffurfio neu wedi ei greu ar gyfer rhyw gêm benodol.

Mae’n fwyaf tebyg, yn enwedig o ystyried eu henw, mai tîm wedi ei ddatblygu allan o un o gymdeithasau’r Cymry ym Manceinion oeddynt. Mae yna nifer o gyfeiriadau mewn papurau newydd y cyfnod yn son am y gymdeithas Gymreig yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau cymunedol megis canu corawl, o gwmpas y ddinas .

Credir hefyd mai tymor 1888-1889 oedd tymor llawn cyntaf tîm Cymry Manceinion. Mae adroddiadau o lawer o’u gemau yn bodoli ym mhapurau newydd Manceinion a Sir Gaerhirfryn o’r adeg honno.

Yn wir, mae un erthygl papur newydd yn cyfeirio at dorf o dros 3,000 yn gwylio un o’r gemau, torf a oedd yn fwy nag oedd a Newton Heath yn gallu eu denu i nifer o’u gemau. Ceir cofnod o’r ‘Manchester Welsh’ yn chwarae yn erbyn Blackburn Rovers (ail dîm i bob pwrpas) ar faes Newton Heath, yn North Road yn 1888, ac mae’r ffaith mai yma oedd y gêm yn rhyw awgrymu nad oedd ganddynt faes eu hunain yr adeg honno.

Mewn hysbysiad ym mhapur newydd y Lancashire Evening Post ar y pedwerydd ar ddeg o Ebrill, 1888, mae cyhoeddiad fod tîm Cymry Manceinion yn bwriadu cynnal gem yn erbyn Blackburn Rovers, gan obeithio cael gwasanaeth y golwr Dr Robert Mills-Roberts. Cymro a anwyd ym Mhenmachno, oedd Mills-Roberts, meddyg yn ôl ei alwedigaeth, ond roedd hefyd yn chwarae fel amatur i dîm Preston North End pan enillodd Preston bencampwriaeth gyntaf y Cynghrair Pêl Droed yn 1888 a hefyd yn aelod o'r tîm a enillodd gwpan Lloegr y flwyddyn ddilynol.

Ceir cyfeiriad yn y Manchester Courier ar yr ail ar bymtheg o Dachwedd, 1889 yn rhestru nifer o gemau'r dydd yn cynnwys Manchester Welsh yn erbyn Manchester Clifford, tra bod Gorton Villa adte yn erbyn Welsh Druids (Derwyddon Rhiwabon mwy na thebyg, rhagflaenwyr y Derwyddon Cefn presennol).

Doedd cael chwaraewyr o Gymru yn symud i Fanceinion i chwarae yn broffesiynol yn ddim byd newydd. Does ond angen meddwl am Billy Meredith, ond ceir hefyd y brodyr Doughty
(Roger a Jack) er enghraifft, a ymunodd a Newton Heath o’r Derwydon yn 1886, yr un flwyddyn a symudodd Tom Burke o Wrecsam Olympic, hefyd i Newton Heath, cyn i Dai Jones ymuno a hwy o'r Waun ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Ond nid Newton Heath oedd yr unig dîm a welodd fod yna dalent yn bodoli dros y ffin yn ardal lofaol Wrecsam. Yn 1891, symudodd Hugh Morris o glwb y Waun i Ardwick
(rhagflaenwyr Manchester City).

Hawdd ydi dod i ganlyniad mai rhagflaenwyr Manchester United oedd Newton Heath ond mwy anodd ydi canolbwyntio’n uniongyrchol ar ddylanwad Cymry Manceinion ar Newton Heath.

Mae'n edrych yn debyg fodd bynnag fod tîm y Manchester Welsh wedi rhoi cychwyn da i'r Cymry hynny a ddaeth i'r ddinas i weithio, gyda’r goreuon o bosibl yn symud ymlaen i Newton Heath neu Ardwick.

Hwyrach nad rhagflaenwyr uniongyrchol i unrhyw dim oedd y Manchester Welsh, gan mai'r arfer ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd i dimau pêl droed ddatblygu o unrhyw le, ar unrhyw adeg. O fewn degawd byddai timau gydag enwau fel y Manchester Dairymen, Didsbury Wednesdays a Manchester Transport wedi eu sefydlu. Mae enwau o’r math yna yn atgyfnerthu’r farn mai timau lleol, yn gysylltiedig â gwaith, neu ddiwylliant, neu ar ba ddiwrnod oeddynt yn gallu chwarae, oedd nifer o’r timau newydd a ffurfiwyd.

Dyna mae’n debyg sut y dechreuodd Manchester City, yn wreiddiol fel tîm eglwys St Mark cyn i’r chwaraewyr ganolbwyntio fwy ar y bêl droed na chrefydd a chreu tîm Ardwick ac yna Manachester City.

Erbyn tymor 1888-1889 ymddengys fod tîm y Cymry wedi symud i ardal Wallness yn Salford ac yn cynnal eu gemau ar gae Parc Peel, darn o dir sydd erbyn heddiw yn cynnal Canolfan Hamdden David Lewis.

Mae adroddiadau am gemau'r Manchester Welsh yn lleihau ar ôl 1889, ond mae'n werth nodi bod clwb rygbi Manceinion Cymru yn dechrau ymddangos mewn adroddiadau, gyda nifer o gemau sy'n ymddangos mewn i'r 1900au.

Mae gen i deimlad nad yna ddiwedd y stori. Does gen i ddim amheuaeth fod cyfraniad y Cymry , ym Manceinion, fel yn Everton wedi mynd ymhell i sefydlu un os nad dau o dimau pêl droed mwyaf y byd.

Mae gen i deimlad y daw mwy o hanes i'r golwg yn y dyfodol agos a hwyrach y ceir y wybodaeth allweddol am greadigaeth y Manchester Welsh o gofnodion eglwys a chapeli Cymraeg ardal Manceinion. Bydd hyn yn anodd gan fod nifer o'r capeli gwreiddiol wedi eu chwalu erbyn heddiw, ond does ond obeithio fod yna gofnodion hanesyddol yn bodoli yn rhywle, yn cyfeirio at fodolaeth y tîm pêl droed yma allan o weithgareddau cynnar yr eglwysi a'r capeli.

Rwy'n ddyledus i'r hanesydd pêl droed, Gary James o Brifysgol Fetropolitan Manceinion am y wybodaeth a ddaeth i'r golwg yngl欧n â thîm pêl droed y Cymry ym Manceinion. Mae'r hanesydd yn arbenigwr ar hanes datblygiad pêl droed yn y ddinas ac yn parhau yn ei waith ymchwil at dwf y gêm a'r timau niferus a oedd yn bodoli ar un adeg ag a roddodd enedigaeth i ddau o dimau mwyaf y byd.

Os oes unrhyw ddarllenydd gyda gwybodaeth a fyddai yn ein harwain at fwy o hanes tîm pêl droed y Manchester Welsh fe fyddwn yn ddiolchgar, a mae croeso i chi gysylltu a rhaglen Ar y Marc.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Amser Stori Tic Toc