Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Hydref 15, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Dan yr Wyneb - Rhoi aren

aren - kidney
llawdriniaeth - surgery
ddim yn ymwybodol - unaware
meddygon - doctors
anymarferoldeb - inpracticality
chwaer ieuenga - younger sister
unrhyw amheuon - any doubts
dewr - brave
fawr ddim o gyngor - hardly any advice
yn galonogol - heartening听

...Menna Medi yn s么n wrth Dylan Iorwerth am yr adeg pan oedd ei chwaer hi, Olwen, angen aren newydd, ar 么l iddi fod ar beiriant dialysis am dair blynedd. Roedd rhaid i'r aren ddod gan aelod o'r teulu ac fel y cawn ni glywed roedd teulu mawr gan Olwen. Menna gafodd ei dewis i gael y llawdriniaeth yn y diwedd a dyma hi'n dweud yr hanes wrth Dylan Iorwerth...


Cofio - Hen Reilffordd

gweinidiog yr Efengyl - Minister of religion
heddwch i'w lwch o - may he rest in peace
dengid - to escape
dyna i chi bry ynde (idiom) - there's a character for you
peirannau - machines
siwrne faith - lengthy journey
ffasiwn beth - such a thing
dylanwadol - influential
blaenor - deacon
cymanfa ganu - hymn singing festival

Menna Medi yn fan'na yn siarad efo Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb nos Lun diwetha am roi un o'i harennau i'w chwaer. Os ydych chi dros ryw oedran arbennig mi fyddwch chi'n siwr o gofio y rheilffyrdd oedd i'w cael yng Nghymru cyn i'r Doctor Beeching eu cau nhw i gyd. Un o'r rheilffyrdd hynny oedd yr un rhwng y Bala a Blaenau Ffestiniog, er i fod yn deg 芒'r Dr Beeching mi gafodd hwn ei gau ym Mil Naw Pump wyth-cyn ei amser o! Mi gafodd John Hardy sgwrs efo John Roberts o Lanuwchllyn oedd yn arfer gweithio ar y rheilffordd...


C2 Ifan Evans - Bardd preswyl y mis

bardd preswyl - resident poet
her - a challenge
prifardd - chaired bard
cerddi mawl - odes
sail - foundation
mabwysiadu - to adopt
crwt - bachgen
tacl front - dirty tackle
weiran bigog - barbed wire
troellwr disgau - DJ

Llwyth o straeon difyr yn fan'na wrth i John Roberts gofio am yr hen reilffordd rhwng y Bala a Blaenau Ffestiniog. Os ewch i wefan Radio Cymru mi gewch chi glywed y sgwrs honna'n llawn gan gynnwys cerdd gafodd ei hysgrifennu i'r rheilfffordd. A sgwennu cerdd oedd yr her roddodd Ifan Evans i Fardd Preswyl C2 - Ceri Wyn Jones nos Fawrth diwetha. Dyma i chi gyfle i glywed y gerdd ac i ddysgu llawer iawn o ffeithiau am Ifan Evans!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Hydref 7, 2014

Nesaf

Byd Iolo: Ffair Adar Rutland Water