Main content

Dilwyn Roberts Young Yn Ffrainc

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Hwyrach i chi gofio i ni gynnwys blogiau wythnosol am hanes tîm Cymru a’ r cefnogwyr yn gyson yn ystod yr Ewros yr Haf yma.

Yr wythnos yma cawsom ymateb gan un o gefnogwyr Cymru a wnaeth y daith y Ffrainc, sef golygydd rhaglen clwb pêl droed Aberystwyth, Dilwyn Roberts-Young wrth adrodd ei hanes mewn erthygl yng nghylchgrawn lleol Aberystwyth, sef yr EGO

Dyma’r hanes;-

Dwi'n ôl! Dwi'n ôl o Ffrainc yn dilyn un o anturiaethau mwyaf fy mywyd!

Mae'n anodd credu beth sydd wedi digwydd ers gêm gyntaf Euro 2016 Cymru yn Bordeaux ar Fehefin yr unfed ar ddeg. Roedd yna awyrgylch anhygoel cyn y chwiban gyntaf a ninnau'n dechrau dygymod gyda'r syniad ein bod ni wedi cyrraedd carreg filltir yn ein hanes fel gwlad bêl-droed.

Byddai bod yno wedi bod yn ddigon ond pan aeth y chwiban olaf roedd Cymru ddwy gôl i un ar y blaen. Ond roedd y fuddugoliaeth wedi digwydd ymhell cyn hynny! Roedd y ddinas wedi ein cofleidio ac roedd Cymru wedi mynnu ei lle ar y llwyfan rhyngwladol - roedda ni wedi cyrraedd!

Does dim dwywaith na fydd cefnogwyr Cymru'n cofio Bordeaux am weddill ei bywydau! Fel y dywedodd Glyn Griffiths, mewn blog ar wefan y 主播大秀, 'fe ddylai’r enw Bordeaux gael ei fabwysiadau a'i dderbyn gan eiriaduron swyddogol y Gymraeg fel gair sydd yn gyfystyr a chroeso, gwladgarwch a dathliadau bythgofiadwy. Ie, roedd hi'n Bordeaux o benwythnos!'

Pwy fyddai wedi meddwl y byddai Cymru nid yn unig yn cyrraedd y rownd nesaf ond ar frig y gr诺p? Do, bu i ni golli yn y gêm yn erbyn Lloegr ond arwydd bod Cymru wedi aeddfedu oedd ein bod ni wedi troi ein cefn ar yr hen awydd hwnnw i ganolbwyntio ar ein cymdogion mewn cystadleuaeth pêl-droed.

Bu i ni chwalu Rwsia gyda phêl-droed beiddgar a chyffrous oedd yn gweithio ar gryfderau'r tîm ac yn profi unwaith ac am byth nad Gareth Bale yn unig yw tîm pêl-droed Cymru! Yn wir, sgoriodd Neil Taylor ei gôl gyntaf ers yr un i Wrecsam yn erbyn Grays Athletic yn Ebrill 2010!

Bu raid i Llinos a minnau droi am adref wedi’r gêm gyntaf honno yn erbyn Slofacia ond roedd y ddau ohonom yn rhedeg am Paris ar gyfer y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon. Dyna un o'r gêm anoddaf i'w gwylio erioed ac roedd rhywun yn synhwyro mai un gôl fyddai ynddi ac er mai gôl i'w rwyd ei hun gan Gareth McAuley oedd honno roedd Cymru'n llawn haeddu lle yn yr wyth olaf.

Roedd y gêm honno ar ben-blwydd Llinos, y wraig 'cw, ac roeddwn yn si诺r bod Gareth Bale wedi rhuo Penblwydd Hapus wrth iddo ddathlu'r fuddugoliaeth ar ddiwedd y gêm! Ym mhell tu hwnt i ddisgwyliadau unrhyw siawns roedd Cymru ymysg haen uchaf pêl-droed Ewrop ac wedi gwylio timau fel Sbaen a'r Eidal wedi troi am adref!

Y tebygolrwydd yw y byddai'r antur ar ben wrth i ni wynebu ail ddetholion y byd ond roeddwn i'n gegrwth wrth wylio'r gêm yn Nhafarn yr Eagles, Llanuwchllyn! Roedd Cymru wedi chwalu Gwlad Belg yn racs jibidêrs! I lawer, dyna oedd gêm orau Euro 2016 ac roedd y byd pêl-droed erbyn hyn yn gwybod bod rhywbeth arbennig iawn wedi digwydd.

Roeddwn i nôl yn Ffrainc ar gyfer y gêm gynderfynol yn erbyn Portiwgal gyda’r meibion Morgan ac Owen a'u ffrindiau Jac Bonner a Rhys Wyn. Roedd rhaid wynebu Cristiano Ronaldo a'i gydwladwyr ond roedd llawer ohonom yn ddigon hyderus wrth i ni ddechrau ar yr ail hanner gyda'r gêm yn ddi-sgôr. Roedd tîm Cymru dal ei tir ac Cymru'n dygymod gyda cholli Ben Davies ac Aaron Ramsey oedd wedi cael pencampwriaeth cwbwl ddilychwin.

Fedra i ddim dweud fod y freuddwyd wedi ei chwalu yn y Stade des Lumières yn Lyon y noson honno. Y freuddwyd oedd cyrraedd Ffrainc; y freuddwyd oedd bod y tîm cenedlaethol yn gwneud argraff; y freuddwyd oedd y byddai Cymru'n cael ei gweld fel gwlad bêl-droed sydd yn haeddu bod ar y llwyfannau uchaf. Gwireddwyd y freuddwyd!

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar Y Marc: Cymreictod y gem

Nesaf

T卯m pel-droed GB