Main content

Dechrau 'Showcases' WOMEX

Owain Gruffudd

Gohebydd WOMEX

Ar ôl cyngerdd agoriadol llwyddiannus, roedd hi’n amser i’r Showcases gychwyn. Y Showcases yw’r cyfle i ddal y gwahanol fandiau o amgylch y byd – oedd wedi eu dethol i gymryd rhan - ar wahanol lwyfannau yng Nghanolfan y Mileniwm. Roedd mynd o un llwyfan i’r llall yn fy atgoffa o Ŵyl Sŵn ar adegau!

Ond cyn iddyn nhw gychwyn, roedd Cwpwrdd Nansi yn cynal sesiwn gwerin yng nghaffi ‘World of Boats’. Roedd deuawd Olion Byw yn chwarae yno, ymysg eraill, a roedd hyn yn ffordd grêt o gael blas cynnar ar y gerddoriaeth cyn mynd draw i’r Ganolfan ar gyfer y prif ddigwyddiad. O beth dwi’n ddeall mae’r sesiynnau hyn yn digwydd dros y penwythnos felly mae’n werth mynd draw os gewch chi gyfle!

Y prif Showcase o Gymru neithiwr oedd Georgia Ruth. ‘Da ni’n ddigon ffodus i gael cyfle i weld Georgia yn perfformio nifer o weithiau dros y flwyddyn, ond roedd y cynnwrf ymysg y cynadleddwyr dramor yn amlwg wrth i’r ystafell lenwi yn syth wrth iddi gychwyn. Roedd hi’n set wych gan Georgia i gychwyn y noson a roedd y ffordd wnaeth hi lwyddo i afael ar holl sylw y gynulleidfa yn anhygoel. Roedd pob llygad a chlust yn yr ystafell yn canolbwyntio ar ei pherfformiad. Dwi’n edrych ymlaen i’w gweld hi yn perfformio eto heno gyda Ghazalaw.

Mae Georgia wedi cael WOMEX prysur iawn - roedd hi hefyd yn canu yn y cyngerdd agoriadol

Ond gan fy mod i yn WOMEX, roedd rhaid cymryd y cyfle prin i ddal rhai o’r perfformiadau o dramor hefyd – a roeddwn i’n falch fy mod i wedi gwneud hynny.

Roedd neithiwr yn profi gymaint o amrywiaeth sydd yna o un band i’r llall, ond hefyd fod WOMEX yn ŵyl sydd yn canolbwyntio ar y gerddoriaeth – nid ar yr iaith sydd yn cael ei chanu. Un munud roeddwn yn gwylio rapiwr o Lydaw a’r munud nesaf roeddwn i’n mwynhau band pres o Frazil.

Ond yr uchafbwynt i mi yn bersonol oedd Debademba. Ar ôl clywed am eu sesiwn ar gyfer Radio Cymru gyda Colorama roeddwn i’n benderfynol o fynd i’w gweld. A ches i ddim fy siomi! Roedd y gerddoriaeth cyfoes Affricanaidd yn cyfuno ‘chydig o blues, ffync a salsa, ymysg mathau eraill o gerddoriaeth ac wedi troi’r babell tu allan i’r Ganolfan yn dipyn o barti! Ffordd wych i ddod a’r noson i ben!

Fory gewch chi glywed am fy mhrofiad cyntaf yn y gynhadledd yn y Motorpoint a mwy am y Showcases!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Agor WOMEX mewn steil

Nesaf

Sesiwn Fach yn Womex 2013