Dwi yma yn 诺yl ers amser cinio ddoe a dwi heb gael llawer o gyfle hyd yn hyn i weld llawer o berfformwyr.
Wnaethon ni gyrraedd a dechrau paratoi ar gyfer rhaglen neithiwr.
Roeddwn ni yn darlledu o gyntedd ganolfan y Mileniwm uwchben llwyfan y Gorwelion ac roedd yr awyrgylch yma yn hollol drydanol.
Roedd yna lot o bobol yn mynd a d诺ad i glywed y bandiau ac yn mynd allan yn y doc i Theatr Western a'r prif lwyfan yn Theatr Donald Gordon.
O be yr ydw鈥檌 'n i weld mae'r bobol sydd yma i weithio, rhwydweithio, ac i chwilio am fandiau yn wirioneddol mwynhau ei hunain ac mae yna wen ar wyneb pawb. Rydych chi'n siarad 芒 rhywun am y tro cyntaf ac maen nhw鈥檔 s么n am y gerddoriaeth a gymaint maen nhw'n mwynhau.
Aethon ni weld band oedd yn gyfuniad o Lyd盲wyr a phobol o Facedonia neithiwr ac roedd yr harmon茂au yn fendigedig.
Heddiw wnaethon ni wneud cyfweliadau yn y Motorpoint, lle mae'r ffair masnach a'r rhwydweithio go iawn yn digwydd.
Roedd yna stondinau o bob man o'r byd a thipyn o Gymru ac eto yn fanna roedd pobol yn mynd o un lle i'r llall.
Gobeithio heno ac yfory gai cyfle i wrando ar fwy o fandiau.
Heno rwy'n edrych ymlaen at berfformiad Catrin Finch a hefyd a dwi'n edrych ymlaen at weld 9 Bach yfory.