Main content

Llwyddiant y ddyfarnwraig Cheryl Foster

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra mae’r blog yma wedi talu sylw i ddyfarnwyr o Gymru sy’n gwneud eu marc ar lwyfan Ewropeaidd, mae’n bleser nodi fod dyfarnwraig hefyd yn ymuno a'r garfan freintiedig yma.

Mae Cheryl Foster, sydd yn rheolwraig yng nghynghrair Huws Gray yng ngogledd Cymru, wedi cael ei henwi i fod yn aelod o’r tîm dyfarnu ar gyfer gem cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd i ferched rhwng Croatia a Hwngari yng ngr诺p 4.

Tydi cymryd rhan mewn gemau pêl droed rhyngwladol yn ddim byd newydd i Cheryl gan ei bod wedi cynrychioli Cymru 63 o weithiau (gan sgorio naw gol), yn ogystal â thimau Cymru o dan 16, 18 a 20 oed, a hefyd wedi chwarae i dîm Merched Lerpwl am naw mlynedd cyn ymddeol yn 2013.

Cafodd cyfraniad Cheryl i bêl droed Cymru ei gydnabod yn 2014 pan gyflwynwyd cap aur iddi gan Gymdeithas Beldroed Cymru.

Yn enedigol o Fangor, fe gychwynnodd ei gyrfa gyda thîm merched Conwy, cyn symud i Ddinas Bangor ble roedd yn brif sgoriwr am bedair blynedd yn olynol, cyn i Lerpwl gydnabod ei galluoedd wrth iddi chwarae fwy o genau iddynt nac unrhyw ferch arall, cyn gorffen ei gyrfa fel aelod o dim Doncaster Belles.

Mae hefyd eisoes wedi cael profiad o ddyfarnu ar lefel rhyngwladol yng nghystadleuaeth UEFA i ferched o dan 17 oed a hefyd wedi dyfarnu ffeinal Cwpan Merched Cymru yn 2016.

Mae Cheryl Foster mewn cwmni dethol iawn ac yn ymuno ac Iwan Arwel Griffith, Bryn Markham-Jones, a Lee Evans ymysg eraill sydd eisoes ar lwyfan dyfarnwyr rhyngwladol o Gymru.

Pob hwyl iddi ar ei gem ryngwladol gyntaf.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Buddugoliaeth i Gymru yn Tsieina