Wele’n gwawrio, dydd i’w gofio, geni rheolwr, gorau swydd; wele ddynion, mwyn a moddion, ddônt a rhoddion iddo’n rhwydd! ‘ - ie wir, pwy o bosib a oedd yn amau gallu Ryan Giggs i reoli ein gwlad!
6-0 yn Tsieina a Gareth Bale yn torri record Ian Rush drwy sgorio mwy o goliau dros ei wlad nag unrhyw un arall – 29 gol.
Hawdd ‘di mynd dros ben llestri ond pryd a welwyd buddugoliaeth mor gyfforddus â hyn -? A phryd y gwelwyd har trick gan chwaraewr dros Gymru?
Hatrick Bale oedd y bedwaredd hatrick ar ddeg sydd wedi cael ei gyflawni ers y tair gôl a sgoriodd John Price o Wrecsam yn erbyn Iwerddon ar y Cae Ras yn 1882, a’r mwyaf diweddar yn cael ei gyflawni gan Robert Earnshaw yn 2004yn erbyn yr Alban mewn buddugoliaeth o bedwar gôl i ddau
Ond cyn colli ein pennau dros y llwyddiant yma, rhaid hefyd gyfeirio at berfformiad tîm C Cymru nos Fercher diwethaf yn erbyn Lloegr C.
Tîm o Gymry sydd yn chwarae o fewn uwch gynghrair Cymru oedd hon, ac fe ellir ystyried anlwc wrth golli o dair gôl i ddwy. Fodd bynnag, mae'r gêm yma, fel gem gyntaf Ryan Giggs, yn agor cyfnod newydd o fewn pêl droed Cymru, ac yn gosod maen prawf ar gyfer sicrhau a sefydlu cyfres o gemau tebyg yn erbyn gwledydd fel yr Alban, Iwerddon neu Ogledd Iwerddon.
Mae cystadleuaeth Cwpan Rhyngwladol yr Alban (Cwpan yr IrnBru) wedi dangos yr hyn sydd yn bosibl o fewn pêl droed cynghreiriau Cymru a llwyddiant y Seintiau Newydd yn y gystadleuaeth yma dwy flynedd yn olynol (fe fydd ffeinal y gystadleuaeth yna yn cael ei chynnal y Sadwrn yma rhwng Dumbarton ac Inverness) ac mae’r cyfle yma yn dangos yr hyn sydd yn bosibl wrth ymestyn dros Glawdd Offa a chystadlu ar wahanol lefel mewn cyd-destun rhyngwladol.
Cyfnod newydd ar wahanol lefelau i Gymru efallai, ond yn y cyfamser, yn ôl i gyflawniad Gareth Bale, ac “am ei haeddiant sy’n ogoniant bydded moliant mwy. Amen “