Main content

Dwy g锚m gyfeillgar i Gymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

A faint ydych yn ei wybod am bêl droed yn Panama?

Gyda Chymru mewn trafodaethau i drefnu gem gyfeillgar yn eu herbyn yn dilyn y gem yn Ffrainc, fe allai hon fod yn rhyw daith i’r anhysbys, a heblaw am gamlas, mae’n debyg nad oes llawer ohonom yn ymwybodol am unrhyw beth yngl欧n â’r wlad.

Felly gadewch i mi eich goleuo.

Bydd eu hymddangosiad yn Rwsia yng Nghwpan y Byd yn brofiad hollol newydd iddynt.
Ond, stori gyda thro yn y gynffon ydi’r llwyddiant.

Bedair blynedd yn ôl, daeth Panama mor agos ag y gall unrhyw wlad i gymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol (ym Mrasil). Yn eu gem olaf yng ngr诺p y gemau cymhwyso, roedd Panama ar y blaen yn erbyn yr Unol Daleithiau o ddwy gol i un, a hyn ar ôl naw deg munud, gyda dim ond un gêm felly ar ôl, sef gem ail gyfle yn erbyn Seland Newydd o’u blaenau.

Ond, yn yr amser ychwanegol , llwyddodd yr Unol Daleithiau i sgorio ddwywaith, gan roi diwedd ar wireddu’r freuddwyd annisgwyl.

Ond, bythefnos yn ôl, llwyddodd Panama i guro Costa Rica o ddwy gol i un yn eu gem cynhwyso olaf , ond doedd hynny ynddo’i hun ddim yn ddigon. Rhaid hefyd oedd disgwyl y gallai Trinidad a Tobago guro’r Unol Daleithiau. Ond fel dial ar y gorffennol, dyna’n union a ddigwyddodd, a gwelodd Panama neu'r Canaleros fel y cant eu hadnabod, eu hunain ymysg yr enwau a fydd yn cystadlu yn Rwsia'r haf nesaf.

Does dim sêr enwog yn nhîm Panama, gyda nifer o’u chwaraewyr yn chwarae i dimau yn yr Unol Daleithiau, fel y New York Red Bulls, Seattle Sounders, Houston Dynamo a’r San Jose Earthquakes. Mae tri chwaraewr, hyd y gallaf weld, yn chwarae i dimau ar gyfandir Ewrop, sef y golwr Jaime Penedo o Dinamo Bucharest , y cefnwr chwith Erick Davis (o Dunaska Streda , Slofacia), a’r blaenwr Gabriel Torres sy’n chwarae i Lausanne, yn y Swistir.

Profiad newydd o bosib i Gymru a chyfle efallai i rai o’r chwaraewyr newydd gael profiad er, fel yn y gêm flaenorol ar Dachwedd y degfed yn Ffrainc, bydd angen cadw momentwm ar y gallu i ennill gemau, a hefyd efallai i sicrhau ein bod yn gwarchod ein safle o fewn rhestr detholion FIFA.

Hwyrach y daw’r gemau yma a throad arall yn hanes ein tîm cenedlaethol a thrwy fagu profiadau gwerthfawr y down i weld sut y gall sêr ein dyfodol ymdopi a’r wawr newydd.

Ffrainc ym Mharis felly ar nos Wener y degfed o Dachwedd ac o bosib Panama yng Nghaerdydd ar y nos Fawrth ddilynol.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf