Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Hydref 7fed - 13eg 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Aled Hughes - Shwmai Su'mae

llysgenhadon - ambassadors
ymgyrch - campaign
o'r herwydd - because
esbonio - explain
clymu - to tie
cymdeithasol - social
cysylltiad - connection
hoelion - nails
dadlau - to disagree
y galon - the heart

"...cafodd Aled Hughes sgwrs fore Llun efo Grant Paisley, sydd yn dod o Awstralia yn wreiddiol ond yn byw yng ngogledd Cymru erbyn hyn. Mae Grant yn un o lysgenhadon Diwrnod Shwmai Su'mae? sef ymgyrch i gael pobl i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg. Dyma i chi glip bach o'r rhaglen lle mae Grant yn egluro sut a pham ddechreuodd o ddysgu Cymraeg..."

Wythnos yr Iaith - Miliwn o siaradwyr

agweddau - attitudes
cefndiroedd - backgrounds
di-Gymraeg - non-Welsh speaking
cwtshys - hugs
plentyndod - childhood
pwysau - pressure
yn ormodol - overly
cam-dreiglo - mis-mutating
so chi'n - dach chi ddim
gorfodi - to force

Wel dyna fo, roedd Nelson Mandela yn ei deall hi'n iawn yn doedd? Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi targed iddyn nhw eu hunain o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd yna raglenni arbennig ar Radio Cymru yr wythnos diwetha i edrych ar rai agweddau o'r polisi yma. Dyma i chi flas ar un o'r rhaglenni hynny gyda'r actores Lauren Phillips yn holi pobl sy'n dod o gefndiroedd di-Gymraeg, ond gafodd eu haddysg mewn ysgolion Cymraeg. Beth ydy eu teimladau nhw at y Gymraeg erbyn hyn? Ydyn nhw a'u ffrindiau'n siarad Cymraeg, ac ydy eu plant yn mynd i ysgolion Cymraeg? Dyma Lana, ffrind Lauren ers dyddiau ysgol gynradd, sydd efo merch dwy ar bymtheg oed, Portia.

Bore Cothi - Keith Morris

jiwcs - goodness!
plannu'r hadau - sowing the seeds
cydio ynddo fe - grasping it
rhyngrwyd - internet
darganfod - finding
llungopio - photocopying
canran fechan - a small percentage
namyn - except for
gwrthod caniatâd - refusing permission
cydbwyseddd diddordeb - balance of interest

"Lana yn fan'na yn sôn wrth Lauren Phillips am ei phrofiadu hi mewn ysgol Gymraeg ers talwm. Bore dydd Mawrth mi gafodd Shan Cothi sgwrs gyda’r ffotograffydd Keith Morris. Y cwestiwn gan Shan iddo fo oedd pam ei fod o wedi bod yn tynnu lluniau o bobl eraill o'r enw Keith Morris? Dyma Keith y ffotograffydd yn dweud sut gafodd o'r syniad o wneud hyn..."

Geraint Lloyd - Brigitte Kloareg

addas - appropriate
aelod - ember
treulio - to spend (time)
cwrs preswyl - residential course
Llydaw - Brittany
yn llwyr - completely
er enghraifft - for example
gwahoddiad - invitation
oedd modd dod - was it possible to come
ffidliwraig - a female fidler

"Keith Morris yn fan'na yn siarad efo Shan Cothi am... Keith Morris, wel sawl un ohonyn nhw a dweud y gwir. A hithau'n wythnos Shwmai, Su'mae roedd hi'n addas iawn bod Geraint Lloyd yn cael sgwrs efo Brigitte Kloareg o Lydaw sy’n aelod o’r grwp Mara, ac sydd wedi treulio tipyn o’i hamser yng Nghymru. Mi wnaeth Brigitte ddysgu siarad Cymraeg ar y cwrs preswyl WLPAN cyntaf un. Cafodd y cwrs ei gynnal yn Llambed, neu Llanbedr Pont Steffan, yng nghanol y saithdegau. Ydy Brigitte dal yn cofio ei Chymraeg tybed?"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cynghrair Cenhedloedd UEFA

Nesaf

Dwy g锚m gyfeillgar i Gymru