Main content

Cartrefi Cymru: Gwlad Eben Fardd

Twm Morys

Cyflwynydd Cartrefi Cymru

‘Yn yr haf diweddaf,’ meddai OM ym 1893, ‘yr oeddwn wedi meddwl am ddarllen Awdl Dinistr Jerwsalem, prif waith Eben Fardd, ac un o’r pethau gorau, ar lawer cyfrif, fedd llenyddiaeth Cymru... Nid oes eisiau gweled Jerwsalem i ddeall awdl Eben Fardd, oherwydd ni welodd Eben fardd hi ei hun. Rhaid i fardd gael ei olygfeydd o rywle... Tybiwn innau, os medrwn weled golygfeydd Llangybi yn Eifionydd, y cawn ddarlun o’r wlad oedd o flaen llygaid y bardd wrth wneud yr awdl...’

Eglwys Llangybi

Ac ar fore hyfryd o Awst y flwyddyn honno, ddeng mlynedd ar hugain wedi marw’r bardd, mi aeth O.M. a chyfaill iddo i ‘Wlad Eben Fardd’, i Langybi yn Eifionydd. Ac eleni, mi es innau a’r pensaer Maredudd ab Iestyn a minnau'r un ffordd.

Ein tywysydd oedd TWM PRYS, brodor o Langybi, ac un â chyswllt personol diddorol dros ben ag Eben Fardd ag â’r mannau mae OM yn eu disgrifio: yr hen dŷ tafarn; yr eglwys; Ffynnon Gybi; hen faen yn y mynydd o’r enw ‘Cadair Cybi’. Mi ddaeth y daith â llawer o bethau difyr i go’, meddai, ond mi ddaeth â pheth tristwch hefyd wrth feddwl cymaint mae Llangybi wedi newid ers oes OM. Go brin fod tri theulu ar ôl fyddai’n gwybod dim am yr hyn mae OM yn ei ddisgrifio. Tai gwyliau ydi llawer o’r tai yng nghanol y pentre’. Ac mae diawl o olwg ar Gadair Cybi, lle eisteddodd Eben Fardd ym 1823 a gwneud englyn.

Maredudd a Twm Prys

Ìý

Peth rhyfedd iawn gan y tri ohonom oedd bod OM heb fynd yn ei flaen wedyn i Glynnog Fawr, lle treuliodd Eben Fardd y rhan fwya’ o’i oes a lle claddwyd o. Ond rhaid cofio bod clamp o eglwys fawr yn fanno, a honno yn llawn creiriau a hanes seintiau ac ofergoelion anfethodistaidd iawn!

Mi ddaeth y jets ar ein holau ni eto i Wlad Eben Fardd! Ac ar ddiwedd yr ail gyfres o ‘Cartrefi Cymru’, cytunodd Maredudd a fi mai'r tri gwahaniaeth mwya’ rhwng oes OM a’n hoes ni ydi: twrw, coed a Saeson. Ond fel y gwelsom, Cymry sydd hyd heddiw yn y tai y bu OM a ninnau yn ymweld â nhw.


TÅ· crwn y ffynnon

Y Ffynnon Fach

Y Royal Oak neu Ty'n y Port

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

FC Rwmania