Main content

FC Rwmania

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn ôl yn 1989 Llwyddodd Sutton United i greu canlyniad sydd yn un o’r syndod mwyaf yn hanes Cwpan Lloegr. Llwyddodd y tîm o dde Llundain i guro Coventry City, o ddwy gol i un yn nhrydedd rownd y gwpan, a hynny wedi i Coventry gipio'r gwpan dau dymor ynghynt.

Yn wir, safodd camp Sutton o fod yr unig dîm o'r tu allan i brif gynghreiriau Lloegr, i guro tîm ym mhrif adran Lloegr nes y llynedd pan lwyddodd Luton i drechu Norwich.

Ond nid stori am Sutton gymaint ydi hon, ond am eu gwrthwynebwyr y Sul diwethaf, sef FC Romania, tîm o Cheshunt, swydd Hertford.

Sefydlwyd y clwb yn 2006 gan fewnfudwr o Rwmania sef Ionut Vintila. Dechreuwyd chwarae mewn cynghrair dydd Sul cyn newid i gynghrair ddydd Sadwrn pêl-droed y tymor canlynol.

Ers eu ffurfio wyth mlynedd yn ôl, mae’r tîm wedi llwyddo i godi drwy saith adran ac yn sgil hyn wedi cymhwyso i gystadlu yn rownd ragbrofol Cwpan Lloegr. Cynhaliwyd y gêm ar y penwythnos ond Sutton a orfu o dair gôl i ddwy.

Ond beth ydi cefndir y tîm unigryw yma?

Mewn cyfweliad a’r cyfryngau dywedodd ei chwaraewr canol cae Valentin Vasile fod y chwaraewyr yn hoffi'r syniad i fod yn wahanol. A bod y tîm yn gyffelyb i dîm cenedlaethol iddynt, ac fel cartref.

Mewnfudwyr o Romania ydi'r rhan fwyaf o aelodau’r tîm, gan gynnwys, ar un adeg, cyn chwaraewr Steaua Bucharest ac Espanyol (Barcelona), yr ymosodwr Claudiu Raducanu, a enillodd ddau gap rhyngwladol i Romania, ac mae’r clwb yn ganolbwynt i'r gymuned Rwmania lleol.

Ar ôl ymadael a’i wlad enedigol, doedd Vasile, fel llawer o fewnfudwyr eraill, ddim yn rhy siŵr os oedd am chwarae pêl-droed eto. Dywed fod llawer o bobl yn dod yma i weithio ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn chwaraewyr pêl-droed, gan nad yw pêl-droedwyr yn cael eu talu'n dda yn Rwmania. Yn sgil hyn, llwyddodd y clwb i ddenu'r chwaraewyr hynny sydd yn byw yn ardal Llundain , a dyna yn rhannol sydd wedi cyfrannu at gyflawni cymaint mewn amser byr.

Mae stori FC Romania yn un gyffrous a petawn i yn dal i fod yn rheolwr y dyddiau yma, fe fyddwn wedi bod mewn cysylltiad â nifer o grwpiau tebyg o fewn cyrraedd i chwilio am chwaraewyr pêl droed o safon o fewn eu poblogaeth.

Gyda’r byd pêl droed yn rhoi sylw ar geisio dileu hiliaeth o fewn y gêm ac o fewn cymdeithas, tybed faint o ymdrech mae ein timau pêl droed ni o fewn Cymru yn ei wneud i sicrhau cynhwysiant a chyfle i bob chwaraewyr addawol beth bynnag eu cefndir, lliw neu genedlaetholdeb.

Digon hawdd dangos chwifio baneri Kick It Out neu Respect yn gyhoeddus yn yr awyr iach, ond tydi rhain yn golygu dim os na chant eu cefnogi'n ymarferol a'u gwireddu o fewn ein cymunedau.

Tybed a ydi hanes FC Romania yn rhoi agoriad llygaid i ni ac yn ymestyn ein gorwelion at roi gwell gynhwysiant i grŵp o chwaraewyr sydd hwyrach wedi cael ei ynysu a'u hanwybyddu hyd yma?

Agwedd wahanol ar yr hen gwestiwn bel droedaidd yna o ‘Faint o locals sy’ gennych yn y tim?’

Rhywbeth i'w ystyried efallai ?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cartrefi Cymru: Gwlad Eben Fardd

Nesaf

Clwb Peldroed Wrecsam yn 150 oed