Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Mawrth 5ed - 11eg 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Aled Hughes - Nofio Gaeafol

nofio gaeafol - winter swimming
gwerth chweil - worthwhile
ffwrdd a hi - laid back
oerni yn y meddwl - coldness of the mind
her - a challenge
cyflawni rhywbeth - to achieve something
anhygoel - incredible
yn raddol - gradually
gorfod bod - has to be
neb arall ar gyfyl - no-one else near

"...nofio gaeafol. Ia, nofio yn y gaeaf, ond ddim mewn rhyw bwll nofio cynnes, cyfforddus cofiwch, ond nofio mewn llyn neu afon yng Nghymru yn nhywydd oer mis Chwefror. Bore dydd Llun mi fuodd Aled Hughes yn siarad efo Meilyr Wyn sydd wedi bod yn brysur yn nofio mewn llyn neu afon bob diwrnod trwy fis Chwefror. Nofio Gaeafol mae Meilyr yn ei alw ond pam fod o'n gwneud y ffasiwn beth tybed?"


Peis Owain Llyr - Peis pêl-droed

yn gwmws - exactly
defod - rite
cig eidion - beef
atgofion - memories
traddodiad - tradition
yn ddiweddarach - later
canllath - a hundred yards
amserlen - timetable
sylwebu - commentate
Uwch Gynghrair - Premiership

"Pwll nofio cynnes i fi bob tro mae arna i ofn! Falle basai Meilir yn licio rhywbeth poeth i'w fwyta ar ôl nofio yn y llyn - be gwell na phei? Credwch neu beidio, roedd yr wythnos diwetha yn wythnos genedlaethol y pei! Pwy gwell i sôn am beis na'r gohebydd chwaraeon Owain Llyr a’r cefnogwr pêl-droed Huw Owen, sydd wedi teithio i fwy na chant ac ugain o gaeau pêl-droed. Pam bod cymaint o bobl yn bwyta peis ar ddiwrnod gêm felly? "


Aled Hughes - Dysgwr ta siaradwr?

llongyfarchiadau mawr - huge congratulations
rhywbeth ar goll - something missing
yn fy mywyd - in my life
cyflawni - to achieve
agwedd - attitude
yn fy nghalon - in my heart
profi - to prove
yr hen fyd 'ma - this old world
yn gyhoeddus - publicly
cystal â - as good as

"Owain Llyr a Huw Owen yn fan'na'n sgwrsio am beis! Mae Geraint Schofield yn dysgu Cymraeg ers blynyddoedd erbyn hyn ond dydy o ddim yn galw ei hun yn ddysgwr. Pam tybed? Asut mae o'n disgrifio ei hun felly? Dyma Geraint yn esbonio ei benderfyniad wrth Aled Hughes... "

Aled Hughes - Dysgwr ta siaradwr?

am gyfnod - for a while
wedi datblygu - developed
darganfod - to discover
ystyried - to consider
llinyn mesur - yardstick
hyder - confidence
cam-dreiglo - mis-mutate
digon teg - fair enough
tristau - to sadden
gwylltio - to anger

"Wel, be dach chi'n feddwl o hynna te? Dach chi'n ddysgwr ta'n siaradwr Cymraeg? Roedd gan Nia Parry deimladau cryf am y peth a dyma hi'n siarad efo Aled yn syth ar ôl y sgwrs gafodd o efo Geraint... "

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

For莽a Bar莽a - buddugoliaeth gofiadwy

Nesaf

Dechrau diwedd tymor