Main content

Dechrau diwedd tymor

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda ‘r gwanwyn ar gychwyn, fe ddaw dechrau diwedd y tymor pêl droed hefyd.

A thros y penwythnos diwethaf, fe gynhaliwyd rowndiau cynderfynol dwy o gystadlaethau Cymdeithas Bel Droed Cymru.

Llwyddodd tîm y Waun i guro Llangefni o un gôl i ddim yn y Rhyl brynhawn Sadwrn gan sicrhau eu lle yn ffeinal Tlws Cymdeithas Bel Droed Cymru.

Nid dyma’r tro cyntaf yn y blynyddoedd diweddar i’r Waun gyrraedd y ffeinal, gan iddynt wynebu Llanrug ‘nol yn 2014, ond colli o dair gôl i ddwy fu’r hanes yr adeg honno.

Ond mae fwy yn hanes ac etifeddiaeth pêl droed Cymru am dîm y Waun. Yma y gwelwyd dechrau gyrfa'r anfarwol Billy Meredith yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Y Waun hefyd oed un o’r timau cyntaf a ddaeth yng nghwmni eu cymdogion, Y Derwyddon, yn aelodau cynnar o Gymdeithas Bel Droed Cymru ‘nol yn 1876. Dyma hefyd y tîm a oedd yn un o geffylau blaen pêl droed Cymru'r adeg honno wrth iddynt gipio Cwpan Cymru bum gwaith rhwng 1887 a 1894.

Ond eleni, ar Ebrill yr wythfed, byddant yn gobeithio am ail fyw eu llwyddiant, nid yng nghwpan Cymru, ond yn ffeinal Tlws y Gymdeithas, pan fyddant yn gyfarfod a thîm Penlan o ardal Abertawe, a gurodd Sully Sports yn eu gem gyn derfynol hwy ym Mhort Talbot, hefyd o un gôl i ddim.

Roedd Sully yn gobeithio cyrraedd y ffeinal am yr ail dymor yn olynol, pan gawsant eu trechu gan y Fenni, ond doedd dim dial am fod eleni.

Yna ar y Sul gwelwyd rowndiau gyn derfynol Cwpan Merched y Gymdeithas Bel Droed.

Cafwyd gem ddarbi rhwng dau dîm o'r brif ddinas wrth i Ferched Dinas Caerdydd wynebu Merched Coleg y Met ar faes Cambrian a Chlydach yn Nhonypandy, yn y Rhondda.

Caerdydd oedd deiliad y gwpan y llynedd, ond fydd yna ddim ail afael arni eleni wrth i'r myfyrwragedd eu trechu o bum gol i ddim.

Draw yn y Drenewydd, roedd merched Llandudno yn wynebu Merched Dinas Abertawe, gydag Abertawe yn fuddugol o bum gol i un.

Felly, gyda diwedd y tymor yn brysur nesáu, bydd ffeinal Cwpan y Merched yn cael ei gynnal ar yr un penwythnos a ffeinal Tlws y Gymdeithas i'r dynion, ar y Sul, y nawfed o Ebrill.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Bwyta yn ystod gemau pel-droed