Main content

Blog Ar y Marc: Map Trên Ddanaearol Llundain

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Pa mor dda ydych chi yn adnabod eich ffordd o gwmpas Llundain?

Mae bron pawb sydd yn ymweld â’r brif ddinas wedi teithio ar y trên danddaearol , ac yn sgil hyn wedi dibynnu ar fap yr ‘underground’ am wybodaeth ar sut i fynd o un lle i'r llall.

Mae’r map yn hen sefydliad erbyn hyn, fel mae ‘r Gymdeithas Bel Droed o fewn Lloegr. I ddathlu can mlwyddiant a hanner , mae’r Gymdeithas Bel Droed wedi cyhoeddi fersiwn unigryw o'r map tan ddaearol.

Map ydi hwn sydd yn cynnwys, nid enwau gorsafoedd, ond enwau enwogion y gêm dros y can mlynedd a hanner a fu. Pam cyfuno a’r map? Wel yn syml, mae llinell danddaearol y Metropolitan hefyd yn dathlu ei ganmlwyddiant a hanner eleni.

Mae pob un o'r 367 o orsafoedd wedi ei hail enwi, gyda Alf Ramsey yn Wembley, a Michael Owen sydd wedi ei benodi yn llys gennad i'r pen-blwydd unigryw, wedi ei osod yn Oxford Circus.

Ond nid map yn gyfyngedig i chwaraewyr o Loegr yn unig yw hwn. Ceir enwogion megis Syr Alex Ferguson ac Arsene Wenger, Thierry Henry neu Pele hyd yn oed mewn gorsafoedd enwog ( ond dim lle i Maradone hyd y gwela i - tybed pam?).

Mae Cymry'r byd pêl droed yno hefyd, naw ohonynt hyd y galla’i weld. Pwnc trafodaeth fyddai penderfynu pa rai ddylid cael eu cynnwys. Fodd bynnag dyma'r naw detholedig, Neville Southall, Mickey Thomas, Mark Hughes, John Charles, Kevin Ratcliffe, Ian Rush, Ryan Giggs, Gareth Bale a Billy Meredith.

Dim lle i Robbie Savage ac yntau ar gymaint o bethau'r dyddiau yma. Wel wir!

Pwy fydda chi wedi ei enwebu, bob un o rain , mwy, neu a oes yna rywun amlwg wedi ei adael allan? Bydd fyth gyd gytuno, ond mae’n werth sgwrs a dadl rhyw noson oeraidd fel mae’r tywydd yn troi. Hwyl gyda’r dadlau, trafod a‘r penderfyniadau.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 02 Hydref 2013

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: 08 Hydref 2013