Main content

Pigion i Ddysgwyr: 08 Hydref 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Dei Tomos - Teulu Plas Garthewin

yr aer - the heir
ysbaddu - spay
teuluodd bonedd - landed gentry
genedigaeth fraint - birthright
tirion - gentle
angladd - funeral
cyfreithwyr - lawyers
beichiog - pregnant
meudwy - recluse
brithion - mottled

"... hanes un o hen deuluoedd mwy enwog Cymru - y teulu 'Wynn' o Blas Garthewin yn Sir Ddinbych. Hazel Walford Davies fuodd yn s么n am hanes y teulu efo Dei Tomos, ac mi gawn ni glywed clip bach o'r sgwrs mewn munud. Ond peidiwch 芒 meddwl eich bod yn mynd i glywed rhyw hanesion diflas, llawn dyddiadau a ffeithiau sych. O na, mae na ddwy stori hynod o ddiddorol yma, ond well i unrhyw ddynion sensitif beidio 芒 gwrando ar y stori gynta... "

Geraint Lloyd - Bad Achub Conwy

gwirfoddol - voluntary
Bad Achub - Lifeboat
trafferthion - difficulties
delfrydol - ideal
tafliad carreg - a stone's throw
awgrymu - to suggest
rhuthro - to rush
pwyllo - to take care
anarferol - unusual
hael - generous

"Ow, ow, ow am stori India. Teulu bach 'diddorol' a dweud y lleia ynde? Wel at stori dipyn callach rwan. Nos Lun mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Morgan Dafydd am ei waith gwirfoddol efo Bad Achub Conwy. Sgwrs gall ddwedes i? Wel mae laswio gwartheg yn llwyddo i ddod mewn i'r stori rywsut..."

Dafydd a Caryl - Only Men Aloud

ymarfer - rehearse
salwch - illness
clyweliadau - auditions
dwfn - deep
hwyluso - to facilitate
rhyngwladol - international
unigol - individual
cyflawni - to achieve
agwedd - attitude
yn llythrennol - literally

Wel dan ni wedi cael stori boenus o India, llygod rhyfedd, a stori am achub gwartheg. Dw i'n addo stori gall tro ma. Mae na newid mawr yn digwydd efo 鈥淥nly Men Aloud鈥 . Mae'n debyg mai dim ond wyth ohonyn nhw byddwn ni'n gweld ar lwyfan o hyn ymlaen. Daeth Tim Rhys-Evans a Wyn Davies o'r c么r enwog i siarad efo ni ar raglen Dafydd a Caryl ddydd Llun i esbonio pam eu bod yn newid..

Rhaglen Nia - Ffair Nottingham

gwyddau - geese
hedfan - to fly
nwyddau - goods
yn ddiweddar - recently
naws - nature
dychmygu - to imagine
tarddiad - origins
gofidio - poeni
atyniad - attraction
y cwrdd - religious service

"Dw i'n meddwl bod Caryl o ddifri ynglyn 芒 bod yn supersub i'r hogia! Ffans茂o'r teithiau o gwmpas y byd, debyg. Reit ta, efo be dach i'n cysylltu tref Nottingham? Iawn Robin Hood, ia - Coedwig Sherwood, ond fasech chi'n cysylltu'r dref efo gwyddau o gwbl? Go brin, mae'n debyg. Ond mae ffair Wyddau Nottingham yn eitha enwog ac yn hen iawn. Mae'n mynd ers saith cant o flynyddoedd! Ddydd Mercher buodd Nia yn siarad am y ffair efo Gwynne Davies sy'n byw yn Nottingham. Mae Gwynne yn dod o Drefdraeth, Sir Benfro yn wreiddiol, ond yn byw yn y dref ers hanner cant o flynyddoedd, ac yn llawn o hanesion y dre."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf