Main content

Aaron Ramsey v Napoli

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ers i Arsenal gyhoeddi y byddai Aaron Ramsey yn cael yr hawl i chwilio am glwb newydd ar gyfer y tymor nesaf, mae perfformiadau’r Cymro wedi bod yn syfrdanol.

A doedd ei berfformiad ar yr Emirates nos Iau yn erbyn Napoli yn ddim gwahanol.

Chwaraewr y gêm, dylanwad ac ysgogiad y tîm a pherfformiad arall sydd yn gwneud i rywun feddwl pam ar wyneb y ddaear na allai Arsenal wedi gweld ffordd o’i gadw yng ngogledd Llundain.

Llwyddodd capten Cymru i roi Arsenal ar y blaen yn fuan yn y gêm, gan osod sylfeini cadarn a arweiniodd ar fuddugoliaeth werthfawr yng nghymal cyntaf rownd yr wyth olaf Cwpan Ewropa.

Yr hyn a oedd yn drawiadol oedd bod Ramsey, wrth chwarae yn erbyn un o'r timau hynny sydd wedi amlygu eu hunain fel tîm sy'n gwybod sut mae chwalu timau eraill drwy basio'r bel yn effeithiol, wedi cael eu curo gan un a ddangosodd ei fod yntau hefyd, yn gwybod sut mae pasio pêl, a neithiwr yn gwneud hynny yn well nag un o feistri'r gamp.

Llwyddodd hefyd i gael mwy o gynigion am y gôl nac unrhyw un arall - pump i gyd , a llwyddodd i gyffwrdd y bel mwy nag unrhyw un arall. Hyn i gyd yn dangos pam roedd Juventus mor awyddus i'w arwyddo, y rhediadau cyson , y symudiadau deallus, a’r bygythiad parhaus o flaen y gol.

Does ryfedd nad oedd Juve mor awyddus - does wybod chwaith pam na allai Arsenal fod wedi gwneud mwy i'w gadw - dim ond y nhw sy’n gwybod yr ateb i hyn.

Yn y cyfamser, mae Ramsey yn dangos, nid yn unig yr hyn y caiff yr Eidalwyr ei drysori'r tymor nesaf, ond ei gymeriad drwy ei deyrngarwch i berfformio ar y radd uchaf i'w glwb presennol a llwyddo i'r eithaf.

Dyna pam mae’r Cymro yn arweinydd a dyna pam mae ganddo’r gallu i ddangos ei fod yn gallu bod yn gapten llawer mor ddylanwadol, ysgogol, a llwyddiannus ar ei wlad.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf