Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - Gorffennaf 29ain - Awst 4ydd 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Aled Hughes - Nofio

cystadleuol - competitive
safon uchel - high standard
ysgoloriaeth - scholarship
campau - feats
es i ati - I went about it
darganfod - to discover
dinistrio - to destroy
pert - pretty
caethwasiaeth - slavery
menywod - women

Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Aled Hughes gyda'r newyddiadurwraig Seren Jones. Mae teulu Seren yn dod o Zimbabwe yn wreiddiol ac mae hi newydd wneud rhaglen i'r World Service o'r enw "Black Girls don't Swim". Er mwyn ymchwilio ar gyfer y rhaglen buodd hi'n nofio'n gystadleuol am flwyddyn. oedd hynny'n rhywfaint o help iddi hi tybed?

Beti a'i Phobol - Dafydd Apolloni

parhaol - continuous
yn benna(f) gyfrifol - chiefly responsible
yr iaith gyffredin - the common lamguage
pry ar y wal - fly on the wall
gweinidog - minister
cymleth - complicated

Seren Jones oedd honna'n sgwrsio gyda Aled Hughes. Gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nyffryn Conwy yr wythnos hon, mi fuodd Beti George yn siarad efo un o gymeriadau Llanrwst, Dafydd Apolloni. Roedd ei i dad yn dod o'r Eidal yn wreiddiol a'i fam yn dod o Gymru. Wnaeth y ddau gyfarfod a'i gilydd yn yr Eidal pan oedd oedd mam Dafydd yn dysgu allan yno. Beth wnaeth iddyn nhw benderfynu byw yng Nghymru felly?

Bore Cothi - Ruth Herbert Lewis

Gwobr Goffa - Memorial prize
Y Fonesig - Lady
canu gwerin - Folk singing
wedi golygu - has edited
yn cael ei lansio - is being launched
Yr Athro - Professor
hael iawn - very generous
wyrion - grandchildren
yn weithgar iawn - very hardworking
disgyblion cynta - first pupils

Dafydd Apelloni, sydd yn diwtor Cymraeg i Oedolion efo Prifysgol Bangor. oedd hwnna yn sôn am ei rieni. Mi wnawn ni aros gyda'r 'Steddfod yn y clip nesa 'ma. Un o wobrau pwysica'r Steddfod ydy Gwobr Goffa Y Fonesig Ruth Herbert Lewis. Gwobr ydy hon am ganu gwerin ac mae'r Dr Prydwen Elfed Owens wedi golygu llyfr sydd yn edrych ar hanes y wobr hon. Mae'r llyfr yn cael ei lansio yn y Steddfod a dyma Dr Prydwen yn rhoi ychydig o hanes Ruth Herbert Lewis, neu Ruth Caine fel oedd hi cyn iddi hi briodi,ar Bore Cothi...

Dewi Llwyd ar fore Sul - Jeremy Miles

Aelod Cynulliad - Assembly Member
atgofion - memories
(a) rannodd e - that he shared
antur - adventure
mam-gu - nain
tad-cu - taid
yn fwy diweddar - more recently
croesawgar - welcoming
dros dro - temporarily
hiraethu am - to long for

Hanes Gwobr Goffa Y Fonesig Ruth Herbert Lewis oedd hwnna gan y Dr Prydwen Elfed Owens. Mae'r Aelod Cynulliad Jeremy Miles wedi hen arfer dathlu ei benblwydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd ddydd Sul diwetha a dyma rai o'r atgofion pen-blwydd rannodd e ar y rhaglen...

Cofio - Faciwîs

Faciwîs - Evacuees
yr Ail Ryfel Byd - the second World War
ei brofiad - his experience
(y)chydig o fisoedd - a few months
trais - violence
(yn) dragwyddol - all the time
pledio cerrig - pelting stones
yn achlysurol - occasionally

Jeremy Miles yn cofio penblwyddi Eisteddfodol gyda Dewi Llwyd. Mae croeso i bawb wrth gwrs ddod i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst o ble bynnag maen nhw'n dod, ond sut groeso oedd yna yn Llanrwst i'r faciwîs o Loegr adeg yr Ail Ryfel Byd? Dyma Harold Williams o Lerpwl yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei brofiad o ddod i Lanrwst fel faciwî adeg y rhyfel...

Bore Cothi - Comets Caerdydd

Yr Wyl - The Festival
pymthegfed - 15th
dathlu - to celebrate
ynglwm â - involved with
dwlu ar - doting on
trafferthion - problems
sglefrio - skating

Harold Williams oedd hwnna, waneth aros yn ardal Llanrwst ar ôl y rhyfel ac sydd wrth gwrs yn rhugl ei Gymraeg. Dyn ni'n symud o ardal yr Eisteddod nawr, ond cofiwch medrwch ddilyn y Steddfod drwy'r wythnos ar Radio Cymru, ac os byddwch chi'n ymweld â'r Wyl cofiwch alw mewn i babell Shw'mae, Su'mae, bydd croeso arbennig i chi yno. Mae Vikki Alexander yn aelod o unig dîm hoci iâ i ferched, sef Comets Caerdydd. Hi oedd gwestai Shan Cothi a dyma hi'n esbonio sut ddechreuodd hi chwarae gyda'r tîm...

Bore Cothi - Du a gwyn

ymchwil - research
lliwiau'r cyfnod - the colours of the period
cyflawni - to achieve
trysorau - treaures
trawsnewid - to transform
y canlyniad - the result
ymateb - to respond
deigryn - a tear
y fyddin - the army
yn debyg i - similar to

Hanes tîm hoci iâ Caerdydd oedd hwnna ar Bore Cothi. Rhan o waith Gwynant Parri o Ddyffryn Nantlle ydy rhoi lliw i hen luniau du a gwyn. Mae hyn yn newid y lluniau'n llwyr ac yn dod â nhw'n llawer mwy byw. Pa mor anodd ydy'r gwaith yma? Dyma Gwynant yn esbonio wrth Shan Cothi...

 

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cofio Gwyn Pierce Owen

Nesaf

Adnewyddu ysbryd Cymru?