Main content

Adnewyddu ysbryd Cymru?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Cafodd llawer eu syfrdanu'r wythnos yma wrth i Gymdeithas Bel Droed Cymru gyhoeddi eu bod am ail ddylunio logo’r gymdeithas, sef y ddraig goch, a’i gyflwyno fel bathodyn sydd yn ôl y gymdeithas yn ‘ail effro'r ddraig ac yn adnewyddu ysbryd Cymru’ ac a gafodd ei gynllunio ar ôl trin a thrafod gyda’r cyhoedd - drwy drefn ‘ omnibus survey’ yn ôl eu datganid.
Wel - omnibws neu ddim - ofynnodd neb i mi!
Yn anffodus tydi pawb ddim yn croesawu'r bathodyn newydd - gyda chyhuddiadau ei fod fel rhywbeth y gallai plentyn ysgol fod wedi ei greu ar gyfrifiadur ! Ond yn fwy na hyn, mae’r arwyddair Cymraeg ‘Gorau chwarae cyd chwarae’ wedi diflannu oddi ar flaen y crys a’i osod oddi tan y goler, ar y cefn.
Tipyn o ddiffyg parch i'r iaith Gymraeg mi dybiwn a hynny ar ôl holl ymdrech y gorffennol gan y cyn-lywydd, Trefor Lloyd Hughes i sicrhau lle amlwg i'r iaith yng ngweithgareddau’r gymdeithas.
Amser a ddengys be’ fydd yr ateb i'r pryderon.
Ond, os nad yw hyn yn ddigon o syndod i chi, ystyriwch am funud y sioc a gafodd clybiau Treffynnon a Llandyrnog yr wythnos yma wrth iddynt ddeall na fyddant yn gallu cychwyn eu gemau cynghrair (Treffynnon yn uwch gynghrair Ardal Wrecsam o Gynghrair Cenedlaethol, a Llandyrnog yng nghynghrair undebol gogledd Cymru). Hyn i gyd oherwydd y trafferthion di-ri sydd wedi codi ac yn parhau yn sgil ymchwiliadau'r gymdeithas i'r cyhuddiad fod CPD Dinas Bangor wedi cael eu cyhuddo o gynnwys chwaraewr anghymwys mewn gem yng nghynghrair Huws Gray yn erbyn Prestatyn y llynedd.
Bydd pwyllgor annibynnol yn ystyried y cyhuddiad yma ar Awst 16eg, a hyd dan hynny ni chaiff Bangor, na chwaith Treffynnon a Llandyrnog gystadlu mewn gemau o fewn eu cynghreiriau gan y gall y canlyniad y gwrandawiad annibynnol olygu y gallai Bangor ddisgyn i lawr i gynghrair is (sef yr un mae Llandyrnog ynddi ar hyn o bryd) gan olygu y bydd Treffynnon yn cadw eu lle yng nghynghrair Huws Gray, a gaiff ei adnabod erbyn hyn fel Pencampwriaeth y Gogledd, a Llandyrnog yn disgyn un gris i lawr i lawr.
Be ar wyneb y ddaear sy’n mynd ymlaen?
Mae’r Gymdeithas Bel Droed wedi cael digon o amser i edrych i mewn i'r sefyllfa yma, ond, yn fwy na hyn pam bod angen cosbi Treffynnon a Llandyrnog am gamweddau honedig sy’n ymwneud a Bangor a neb arall?
A d’oes dim sicrwydd na fydd y drafferth yn dod i ben ar Awst 16 os bydd Bangor yn colli ac yn penderfynu apelio yn erbyn y dyfarniad?
Yn sgil y sefyllfa, allai ddim deall pam na all y Gymdeithas adael i Dreffynnon aros yng nghynghrair Pencampwriaeth y Gogledd, a gadael i Landyrnog aros yn y gynghrair yr oeddynt llynedd, a chychwyn eu tymor heb unrhyw ofid na chysgod uwch eu pennau. Yna, ar ol dod i benderfyniad terfynol yngl欧n â sefyllfa Bangor, pam na ellir eu gosod fel tîm ychwanegol mewn cynghrair priodol ?
Cawsom halibal诺 mawr yr wythnos diwethaf wrth ddeall fod prif gynghreiriau Cymru yn cael ei ail frandio gyda logos tlws a deniadol, ond does yn fawr o brydferthwch na threfn yn y llanast sydd wedi codi oddi ar y cae.
Cywilyddus ydi eu gweld yn gadael Treffynnon a Llandyrnog heb gemau nes bo'r trafferthion, sydd yn honedig, wedi cael eu creu yn gyfan gwbl gan Fangor, yn arwain at wahardd dau dîm hollol ddi-euog o unrhyw drosedd, rhag cystadlu mewn gemau cynghrair.
Gorau chwarae cyd chwarae? - choelia i fawr, ond mi wn i un peth
Mae distawrwydd a diffyg arweiniad aelodau'r gymdeithas wedi bod yn hollol fyddarol o fewn y cyd-destun yma!! Does ond obeithio y bydd yr aelodau newydd a gychwynnodd ar y cyntaf o Awst yn llawer mwy gweithredol ac effeithiol!
Mae wyneb a phen y ddraig ar y logo newydd yn edrych yn ôl - yn hiraethus i lwyddiant y gorffennol, neu yn chwilio am yr ysbryd i'n parhau?

Adnewyddu ysbryd Cymru ? - gawn ni weld!

Mwy o negeseuon

Nesaf