Main content

60 mlynedd ers trychineb Munich

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Hwyrach, yn ystod yr wythnos, eich bod wedi gweld y gwahanol ddigwyddiadau a gynhaliwyd i nodi trychineb Manchester United yn Munich chwe deg o flynyddoedd yn ôl.

Bachgen ysgol, deuddeg oed oeddwn i, ond cofiaf y diwrnod yn glir, gyda’r newyddion yn cael ei ledaenu ar lafar yn yr ysgol, yn dilyn cyhoeddiadau ar newyddion radio, ac ar y teledu fin nos,  a hynny yn ddyddiol cyn oes y cyfryngau cymdeithasol fel a geir heddiw.

Yn dilyn y drychineb yma, fe ddaethpwyd i ddeall yn well y peryglon a oedd yn wynebu awyrennau mewn tywydd oer, ac amgylchiadau rhewllyd a ddaethpwyd i wella diogelwch awyrennau yn sgil yr hyn a ddarganfuwyd yngl欧n ag achos y ddamwain.

Y dyddiau yma, rydym i gyd, wrth ddarllen adroddiadau mewn papurau newydd, neu wrth wrando ar farn chwaraewyr neu reolwyr ar raglenni pêl droed fel Sgorio neu Match of the Day, yn dod i ddeall eu barn hwy am y digwyddiadau allweddol a welwyd mewn gemau. Mae hyn bron yn rhan annatod o'r rhaglenni radio neu deledu erbyn heddiw, neu yn rhan allweddol o’r hyn sy’n cael ei gynnwys mewn adroddiadau papurau newydd.

Ond, nid felly oedd pethau ar un adeg.

Cyn Munich, doedd yna fawr o farn rheolwr na chwaraewyr yn cael eu cynnig mewn adroddiadau papurau newydd ‘nol yn y pumdegau.

Ond ar ôl y chweched o Chwefror, 1958, newidiwyd popeth.

Heblaw'r wyth o chwaraewyr a thri o staff y clwb, ynghyd a dau o swyddogion yr awyren a dau deithiwr eraill, collodd  wyth o ohebwyr y wasg eu bywydau yn y trychineb.

Roedd un ar ddeg o ohebwyr y wasg ar yr awyren, a phob un ohonynt yn gweithio i bapurau newydd a oedd wedi ei lleoli ym Manceinion, (gan mai dyna oedd y drefn, gyda phapurau gogledd Lloegr yn rhoi sylw i dimau pêl droed y gogledd  a'r wasg yn Llundain yn canolbwyntio ar dimau'r de)

Roedd y gohebwyr pêl droed yna wedi dod  yn enwog iawn yn eu dydd, gyda’r mawrion fel Henry Rose o’r Express yn cyhoeddi eu bod am fynd i ryw gêm benodol, a dyna yn wir oedd arwyddocâd pwysigrwydd y gêm, sef bod Rose yno i adrodd arni.

Yn wir, roedd hysbyslenni yn cael eu hamlygu y tu allan i'r caeau pêl droed gyda’r cyhoeddiad “Henry Rose is here”. Gan amlaf fe fyddai'r dorf yn cydnabod presenoldeb Rose, ac yntau yn eu cyfarch ond ôl (heblaw yn Lerpwl - ble roedd cytgan o anfodlonrwydd yn ei gyfarch wrth iddo godi ei het a chydnabod y rhai oedd yn ei fwio! - does dim byd newydd yn y byd pêl droed!)

Ond, erbyn y dydd Sadwrn, dau ddiwrnod  ar ôl y trychineb, roedd gemau pêl droed i'w cynnal yn Lloegr, a nifer o rheini yn y gogledd, fel arfer.

Fodd bynnag, gan fod chwech o brif ohebwyr y wasg wedi eu lladd a thri arall yn yr ysbyty, bu rhaid i olygyddion y wasg newid trefn gan annog gohebwyr eraill, oedd ddim mor wybodus am bêl droed, i fynd allan i roi adroddiad o gemau.

Un o’r rheini oedd David Meek, sydd erbyn hyn wedi dod yn un o brif sylwebwyr a gohebwyr  am hanes Manchester United , ac wedi ysgrifennu mwy nac un llyfr am hanesion y clwb.

Prif ohebydd newyddion gwleidyddol oedd Meek, ar y pryd heb fawr o wybodaeth am bêl droed, felly ymatebodd i'r gêm fel yr oedd yn ymateb i unrhyw ddigwyddiad arall, gan ddechrau gofyn cwestiynau i arbenigwyr, fel rheolwyr,  er mwyn cael dyfyniadau ganddynt i wneud i fyny am eu diffyg gwybodaeth wrth ysgrifennu eu hadroddiadau braidd yn fyr a diflas.

Doedd neb wedi cynnwys y math yma o safbwynt mewn adroddiadau pêl droed o'r blaen, a daeth y blaengaredd yma, er fel ymatebiad i anwybodaeth ar y cychwyn, yn rhywbeth poblogaidd. Buan iawn y datblygodd ei yrfa a chafodd ei gynnwys mewn rhaglen bel droed newydd ar y teledu ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, sef Match of the Day, a thrwy hynny cael ei gynnwys yn y chwyldro newydd ym mhapurau poblogaidd (tabloid) a ddaeth i boblogrwydd yn y chwedegau.

Heddiw, ni allwn godi papur na gweld Sgorio, na Match of the Day, heb glywed barn y rhai sy’n cymryd rhan, ond yn drist iawn, mae’r arfer yma yn deillio’n ol i'r ddamwain trychinebus hwnnw a ddigwyddodd ar faes awyr Munich, chwe deg o flynyddoedd yn ol i'r wythnos yma.

Ychydig iawn mae llawer ohonom yn ei wybod am yr hyn yr ydym bellach, yn ei gymryd yn ganiataol.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf