Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Ionawr 28 - Chwefror 4 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Aled Hughes - Draenog marw ar y ffordd

draenog - hedgehog
lôn gefn - back road
fel cath i gythraul - like a bat out of hell
pigau - spines
gwrthod - refusing
wiwer - squirrel
gwydn - tough
cyfraith - law
dw i'n amau - I suspect ( that it is)
ysguthan - wood pigeon

"Roedd 'na gân bop Cymraeg ers stalwm ' Draenog marw ar y ffordd'. Yn anffodus dan ni'n gweld y draenogiaid meirw druan o dro i dro, ac anifeiliad ac adar eraill hefyd fel cwningod a ffesantod oedd wedi penderfynnu croesi'r lôn ar yr adeg anghywir. Dach chi wedi meddwl stopio, eu codi nhw, a mynd â nhw adra i'w coginio? Dyma i chi Angharad yn dweud wrth Aled Hughes pa anifeiliad mae hi wedi eu bwyta ar ôl dod ar eu traws yn farw ar y ffordd..."

Beti a’i Phobol - Manon Steffan Ros

y boblogaeth - the population
yn ddyddiol - daily
siomi ar yr ochr orau - pleasantly surprised
cymuned - community
treulio - to spend (time)
anhygoel - incredible
rhyfedd - strange
datblygu - developing
cyfathrebu - to communicate
hunaniaeth - identity

"Doedd draenog ar y barbyciw ddim yn swnio'n rhy flasus nac oedd? Gwestai Beti George yr wythnos yma oedd yr awdures Manon Steffan Ros. Mae Manon yn dod o Riwlas ger Bangor yn wreiddiol ond mae hi'n byw yn Nhowyn, yn Ne Gwynedd erbyn hyn. Saesneg ydy iaith y rhan fwyaf o bobl Tywyn y dyddia 'ma, felly sut mae Manon wedi setlo yn yr ardal...?"

 

Dewch am Dro - Mynydd Parys

diwydiant - industry
oherwydd - because
yn ei fysg o - in its middle
gwaith dur - steelworks
ail ganrif ar bymtheg - 17th century
y deunawfed - the eighteenth
hafan bach dawel - a quiet little haven
oes efydd - bronze age
cloddio - digging
cyfnod y Rhufeiniaid - Roman era

"Manon Steffan Ros yn fan'na yn sôn fel mae dysgwyr Tywyn wedi ei helpu hi i setlo lawr yn yr ardal. Wythnos yma aeth Rhys Meirion i ben pellaf Ynys Môn i dref Amlwch. I’r de o’r dref mae Mynydd Parys, lle roedd y diwydiant copr mwyaf yn y byd ar un adeg. Mae gan yr hanesydd lleol J. R Williams ddiddordeb mawr yn hanes y lle, a dyma fo'n rhannu peth o'r hanes hwnnw efo Rhys Meirion..."

Geraint Lloyd - Dafydd Davies

ffyn - sticks
Tywysog Cymru - Prince of Wales
archeb - order (of goods)
ysgallen - thistle
cynrychioli - representing
gwobr - prize
Archesgob Caergaint - Archbishop of Cantebury
difyr dros ben - extremely interesting

"Hanes diddorol tref Amlwch yn fan'na ar y rhaglen 'Dewch am Dro'. Mae sied yn medru bod yn lle pwysig iawn i rai pobl. ac mae Dafydd Davies o Landdewi Brefi wedi defnyddio ei sied i wneud ffyn arbennig iawn. Fel cawn ni glywed mewn munud, mae Dafydd wedi gwneud ffyn ar gyfer y teulu brenhinol ac ar gyfer nifer o bobl enwog eraill. Sut llwyddodd o i wneud hynny? Dyma fo'n esbonio wrth Geraint Lloyd..."

Bore Cothi - Charlie Chaplin

i wahanol raddau o lwyddiant - to different degrees of success
ffili deg ymdopi - couldn't cope at all
tlodi - poverty
i raddau - to a degree
diddanwyr - entertainers
arwyddo - signing
cytundeb - contract
sêr mwy o faint - bigger stars
cymryd atyn nhw - taken to them
ar eu ffordd mas - on their way out

"O sied yn Llanddewi Brefi i Balas Buckingham - dyna hanes ffyn Dafydd Davies. Da ynde? Un actor oedd wastad yn cario ffon oedd Charlie Chaplin. Daeth yn enwog wrth gwrs yng nghyfnod y ffilmiau tawel, ond cafodd ei fagu mewn ffordd wahanol iawn i fywyd arferol sêr Hollywood. Dyma Gary Slaymaker yn sgwrsio am hanes yr actor efo Shan Cothi.... "

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pel-droed Merched Manceinion

Nesaf

60 mlynedd ers trychineb Munich