Main content

Y diweddara o'r Cae Ras.

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ers imi gyfeirio, rhyw bythefnos yn ôl am ddull arloesol Forest Green Rovers o gynnal clwb pêl droed, a bod yn fygythiad i obeithion Wrecsam o ennill dyrchafiad, tydi’r tîm heb ennill yr un gêm! Ar y llaw arall, tydi Wrecsam wedi gwneud fawr gwell chwaith!

Siom aruthrol oedd colli adref ar Gas Ras Prifysgol Glynd诺r am y tro cyntaf y tymor yma,  i Eastleigh y Sadwrn diwethaf o dair gôl i ddwy.

Mae rhediad ardderchog gemau agoriadol Forest Green wedi sicrhau eu bod yn cadw eu lle ar y brig, er bod y fantais wedi ei leihau i ddau bwynt dros Gateshead yn yr ail safle. Yn anffodus , llithro i'r pumed safle ydi hanes Wrecsam, gyda Bromley a Cheltenham uwch eu pennau.

Os, oni bai a petai , fu hanes Wrecsam eto, a phetai Wrecsam wedi bachu tri phwynt bnawn Sadwrn , yna fe fyddant yn yr ail safle’r bore 'ma. Ond, dydy' nhw ddim, ac mae cyffro’n dangos pa mor agos ydi'r gystadleuaeth yn y Gynghrair Genedlaethol eleni.

Gol hwyr iawn, tri munud cyn y diwedd a ddaeth a'r fuddugoliaeth i Eastleigh, hyn ar ol iddynt roi arwydd o bethau i ddod wrth achub y blaen ar ôl ugain munud, yna dyblu’r fantais ar ôl deugain munud. Llwyddodd Wes York i leihau'r gwahaniaeth cyn yr awr, a daeth pethau yn gyfartal  chwarter awr cyn y diwedd , wrth i Sean Newton godi gobaith y cefnogwyr Cymreig.

Ond , gol hwyr Ben Stevens a gipiodd y pwyntio a'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Mae yna hen ddywediad yn y gêm sy’n dweud os nad ydych yn manteisio ar y cyfleoedd pan maent yn dod, yna fe fydd edifar ar y diwedd.

Ymddengys fod hon yn dod yn stori sydd yn dod braidd yn rhy gyfarwydd ar y Cae Ras y tymor yma yn ôl eu rheolwr Gary Mills, wrth iddo gredu y dylai’r Dreigiau fod wedi sgorio cyn i Eastleigh achub y blaen yn yr hanner cyntaf.

Newidiwyd patrwm chwarae Wrecsam ar gyfer yr ail hanner, gyda’r ddwy gol yn codi gobeithion eto, a chyfyngwyd Eastleigh i un cyfle, ond dyna’r cwbl oedd yr ymwelwyr ei angen i ennill y gêm a chodi i'r degfed safle. Os ydi Wrecsam o ddifrif yngl欧n â’u bwriad o ennill dyrchafiad eleni, yna dyma'r timau sydd angen eu curo adref.

Gyda’r cystadlu yn frwd ac agos, does dim lle i wastraffu cyfleoedd fel ac a gafwyd ‘bnawn Sadwrn, ac ‘roedd y rhwystredigaeth ymysg y cefnogwyr hefyd yn dechrau amlygu’i hun! Mae cefnogwyr Wrecsam wedi dod yn hen gyfarwydd â thrip i Wembley ar gyfer gemau allweddol erbyn heddiw.

Tybed a’i dyma fydd tynged y tîm unwaith eto ar ddiwedd y tymor, a bod ceisio ennill dyrchafiad drwy gemau ail gyfle yn darged mwy realistig i geisio cyrraedd ato nac ennill dyrchafiad fel pencampwyr? Taith i Gaer, ac i ffau llewod eu cymdogion agos dros Glawdd Offa sydd o flaen nesaf.

Does dim byd yn hawdd!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Casnewydd a Merthyr

Nesaf