Main content

Casnewydd a Merthyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Er waethaf eu cychwyn addawol i’w gem adref yn erbyn Dagenham a Redbridge bnawn Sadwrn, colli eto fu hanes Casnewydd.

Mae hyn yn gadael y tîm o Went ar waelod Adran Dau Cynghrair Lloegr gyda dim ond dau bwynt, o ddwy gêm gyfartal.  Mae’n edrych fel hydref a gaeaf hir iawn ar Rodney Parade y flwyddyn yma, a bydd angen gwella llawer ar y chwarae a’r canlyniadau os nad llithro yn ôl i Gyngres Genedlaethol fydd hanes y tim.

Draw ym Merthyr, mae’r clwb yn araf ymdopi a’u dyrchafiad i uwch gynghrair De Cymru. Mae’r tim yng nghanol y tabl ar hyn o bryd gyda’r canlyniadau yn amrywio gan eu gweld yn colli eu trydedd gêm gynghrair yn olynol, y Sadwrn diwethaf, y tro yma i Chippenham o un gôl i ddim. Oddi ar y cae, fodd bynnag, mae Merthyr yn gosod safonau arloesol trwy eu gwaith cymunedol wrth gael eu dewis gan UEFA (corff pêl droed Ewrop) i dderbyn gwobr a sylw fel y clwb cymunedol gorau yn Ewrop.

Mewn datganiad wrth gyhoeddi’r wobr, dywedodd llefarydd o UEFA fod clwb pêl droed Tref Merthyr yn ymgorffori'r hyn sy’n hanfodol i hybu chwaraeon ac ysbryd cymunedol. Aeth y datganiad ymlaen i ddweud eu bod yn ".. cynnwys addysg, pêl-droed hwyl a gemau bychain, wrth hwyluso ‘r gem ar gyfer gr诺p penodol”. 

Ychwanegodd UEFA fod eu cae artiffisial wedi bod yn fendith ar gyfer y fenter gydnabyddedig yma, gyda nifer o ddefnyddwyr lleol yn manteisio ar y cyfle a’r clwb yn defnyddio pêl-droed fel dull o fynd i'r afael â materion cymdeithasol sydd wrth galon y dref.

Mae gan y clwb adran iau gref a dywedodd swyddog datblygu cymunedol y clwb Elliott Evans mai’r hyn sy’n eu gosod ar wahân yw sicrhau cynhwysiant i bawb, nid yn unig y chwaraewyr elitaidd, ond hefyd  y plant sydd yn yr academi, ynghyd a’r cefnogwyr o bob oed, rhyw, gallu, ac anabledd.

Tra mae safonau timau Cymru yn amrywiol ar hyd a lled y wlad, does dim amheuaeth fod yna waith arloesol pwysig a gwerthfawr yn cael ei gyflawni gan nifer ohonynt.

Mae’r fenter a’r sylw yma mae Merthyr wedi ei gael yn dod yn fuan ar ôl i'r sylw mae Wrecsam wedi ei dderbyn yn sgil eu gwaith hwy i wella adnoddau ar gyfer y cefnogwyr ag anabledd sydd yn mynychu'r Cae Ras.

Boed i waith yr holl glybiau ar gyfer eu cymunedau ddatblygu a gosod safonau ac esiamplau i'w dilyn gan nifer o dimau eraill ar hyd a lled Prydain a’r cyfandir. 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Y diweddara o'r Cae Ras.