Main content

Ffeinal Tlws Cymdeithas Pel-droed Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Brynhawn Sadwrn yma cynhelir ffeinal tlws Cymdeithas Bel Droed Cymru ar Barc Maesdu yn Llandudno rhwng Penrhyndeudraeth a Threffynnon.

Dyma, hyd y gwn i, y ffeinal gyntaf i gael ei chwarae ar gae artiffisial ac mae disgwyl am dorf fawr ar gyfer yr achlysur.

Daw Treffynnon i'r gêm yn sgil eu llwyddiant a welwyd hwy yn cipio coron Cynghrair Undebol y Gogledd nos Fawrth. Bydd hyn yn rhoi dyrchafiad i Gynghrair Undebol Huws Gray a bydd eu hyder yn si诺r o fod yn uchel, yn enwedig o gofio nad ydynt ond wedi colli unwaith yn eu cynghrair drwy gydol y tymor.

Ond, mae Penrhyndeudraeth hefyd gyda’u cryfder, gan gynnwys nifer o chwaraewyr profiadol megis Mike Foster a’r golwr David Harvey sydd wedi chwarae i Borthmadog a thimau eraill yn uwch gynghrair Cymru yn y dyfodol.

Daw’r Penrhyn, sy’n bumed yn yr un gynghrair a Threffynnon i’r gêm ar gefn rhediad hyderus sydd wedi eu gweld yn ennill chwech o’u saith gem ddiwethaf, tra mae Treffynnon gyda rhediad sy’n cynnwys ennill pump, cyfartal unwaith a cholli unwaith.

Fawr o ddim felly i wahanu'r ddau dîm wrth ddefnyddio eu gemau diweddar er bod Treffynnon wedi curo'r Penrhyn o bum gol i ddim yn y gynghrair yn ôl ym mis Tachwedd.

Cyrhaeddodd y Penrhyn y ffeinal drwy guro Castell Alun (yr Hob); Corwen, Nomadiaid Cei Conna, Llanberis a Glantraeth tra bu Treffynnon yn llwyddiannus yn erbyn Amlwch, Dyffryn Nantlle Tywyn/Bryncrug, Gresffordd, Hakin a’r Fenni.

Enillodd Treffynnon y Tlws yma yn ôl yn 2011 yn y diweddglo mwyaf cyffrous a welwyd o bosib mewn unrhyw ffeinal yng Nghymru.

Gyda dau funud yn weddill, a chefnogwyr Treffynnon yn prysur longyfarch cefnogwyr Conwy am ennill y Tlws, fe lwyddodd Treffynnon i sgorio, yna yn syfrdanol fe gafwyd cic o'r smotyn yn yr amser a ychwanegwyd am anafiadau a gyda Chonwy mewn sioc a syndod cipiodd Treffynnon y Tlws o dan drwynau eu gwrthwynebwyr gyda chic olaf y gêm.

Mae disgwyl am ddiweddglo tebyg y tro yma bron yn gofyn am yr amhosibl ond gyda Phenrhyn wedi cyrraedd y rownd gyn derfynol y tymor diwethaf, bydd yna ddigon o egni, awch a brwdfrydedd ymysg y ddau dîm ar Barc Faesdu brynhawn yfory.

Bydd sgwrs am y gêm yma ar raglen Ar y Marc fore Sadwrn ac mae’r gic gyntaf ar Barc Maesdu am hanner awr wedi dau

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cyfraniad y cyfrwng