Main content

Cyfraniad y cyfrwng

Griff Lynch

Cyflwynydd

Mae yn gyfres sy'n bwrw cipolwg nôl dros hanes y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg gan ganolbwyntio ar y cyfryngau, neu'r fformatau, gwahanol sydd wedi eu defnyddio i gyhoeddi'r gerddoriaeth dros y blynyddoedd.

Erbyn hyn, mae'n debyg mai lawr lwytho neu ffrydio cerddoriaeth yn ddigidol ydy'r cyfrwng cyhoeddi mwyaf cyffredin i ni, er bod llawer yn dal i brynu eu cerddoriaeth ar ffurf CDs...a gwerthiant feinyl yn 2014 ar ei uchaf ers canol y 1990au!

Ond nôl yn y 1980au y casét oedd y cyfrwng pwysicaf, gan agor y drws i grwpiau na fyddai wedi cael gwrandawiad cyn hynny efallai.

Cyn hynny, yn y 60au a'r 70au, recordiau feinyl – y senglau 7 modfedd i ddechrau, ac yna'r LPs 12 modfedd yn hwyrach – oedd y prif gyfrwng ar gyfer rhyddhau cerddoriaeth.

 

Y record feinyl lliw cyntaf i鈥檞 gynhyrchu yng Nghymru?

Ewch yn ôl yn gynharach eto, i hanner cyntaf yr Ugeinfed Ganrif, a'r recordiau 78 RPM wedi eu gwneud o ‘shellac' oedd yn gyffredin. Rhyw resin sy'n cael ei greu gan bryfaid ydy shellac, ac roedd o'n hawdd iawn i'w dorri felly mae recordiau 78s sydd wedi goroesi mewn cyflwr da yn bethau prin.

Ond fel bydd y rhaglen gyntaf yn y gyfres yn egluro, mae'n rhaid mynd nôl yr holl ffordd i 1899 i ddarganfod y cynnyrch Cymraeg cyntaf i'w ryddhau ar ‘record', a hynny ar silindr cwyr.

Yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol wrth baratoi'r gyfres ydy gweld y patrymau amlwg rhwng y symudiadau mewn cyfryngau cyhoeddi, a'r symudiadau cyffredinol yn y sin gerddoriaeth Gymraeg. Mae hyn yn efelychu'r math o beth oedd i'w weld yn y sin Eingl-Americanaidd wrth i'r fformatau cyhoeddi ddatblygu wrth gwrs, ond efallai gan bod y sin Gymraeg mor fach mae modd gweld y patrwm yn glir iawn.

Mae'r bennod gyntaf yn talu sylw arbennig i gyfnod y recordiau feinyl gan bod y cyfnod yma'n gweld cymaint o newid yn y diwydiant recordiau Cymraeg. Mae hanes sefydlu label Recordiau Sain yn un cyfarwydd, a phwysig, ond rydan ni hefyd wedi mynd ar ôl hanes y swp bach o labeli Cymreig eraill oedd yn arloesi yn ystod oes aur y record feinyl.

 

Rhai o鈥檙 recordiau feinyl Cymraeg sydd yng nghasgliad Richard Rees

Yn ystod y 1950au roedd cwmni Qualiton yn arloesi yn y byd cyhoeddi recordiau ym Mhontardawe, a byddwn ni'n dysgu mwy am hynny. Yn rhannol o ganlyniad i ddylanwad Qualiton fe ffurfiodd cwmnïau fel Welsh Teldisc, Cambrian a Dryw yn y De Orllewin a gwneud cyfraniad mawr i'r diwydiant yng Nghymru ar ddiwedd y 1960au ac yn 1970au.

Yn amlwg, y cynnyrch ydy'r peth pwysicaf gydag unrhyw gelfyddyd ond mae bob amser angen cyfrwng i'r cynnyrch hwnnw gael ei drosglwyddo i'r gynulleidfa. Gyda cherddoriaeth gyfoes mae'r cyfryngau yma wedi newid llawer dros y blynyddoedd, ond i gyd wedi cael dylanwad mawr mewn rhyw ffordd a gobeithio bydd y gyfres yma'n amlygu hynny.

Dafydd Iwan gyda record gyntaf Sain, D诺r gan Huw Jones a ryddhawyd ym 1969

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Llwyddiant Merthyr