Mae gemau agoriadol听 Cwpan y Byd 2014 wedi bod yn esiamplau nodedig听 o ragoriaeth p锚l-droed. Does ond obeithio y bydd y duedd hon yn parhau.
a chawn weld mwy o symudiadau hyblyg,听 chwarae agored, ac agwedd ymosodol a deniadol a ddylai ddenu gwylwyr ar hyd a lled y byd i ddilyn y g锚m.
Cafwyd rhyw awgrym o'r hyn i ddod听 cyn i'r cystadlu dechrau gyda llawer o dimau cenedlaethol yn dangos eu parodrwydd i droi at chwaraewyr iau cyflym ac yn dangos tueddiad i arbrawf gyda dulliau ymosodol yn y gemau paratoadol.
Yna rhaid ystyried cyd-destun y gemau o fewn natur ysbryd听 p锚l droed De Americanaidd听 gyda chwe th卯m o鈥檙 cyfandir hwnnw yn cymryd rhan.
Tydi cefnogwyr p锚l droed De America ddim yn dangos yr un agwedd at gemau ac a geir mewn llawer o wledydd Ewropeaidd. Nid iddyn nhw mae meddylfryd sy'n bodloni ar gemau amddiffynol, di sg么r sy鈥檔 gorddibynnu ar dactegau amddiffynol wedi ei sefydlu at beidio 芒 cholli.
Rydym i gyd wedi hen arfer o glywed am gefnogwyr p锚l droed De America yn gwirio ar rythm y g锚m, ac am samba鈥檙 Brasiliaid.
Cafwyd sylw yr wythnos diwethaf gan un o brif ohebwyr p锚l droed De America sydd ddim yn synnu pa mor agored听 a chyffrous mae gemau Cwpan y Byd wedi bod hyd yn hyn. Mae Sergio Levinsky yn ohebydd sy鈥檔 ysgrifennu i gylchgrawn pel droed 听Jornada de Argentina a hefyd i Kicker, cylchgrawn Almaeneg.
"Tydi De Americanwyr ddim yn hoffi gorddibyniaeth ar听 dactegau," meddai. "Mae nhw am weld hyblygrwydd yn y chwarae a鈥檙 bel yn cael ei symud yn gyflym听 o un chwaraewr i'r llall.
Dywed fod y cefnogwyr听 am weld chwaraewyr gyda gallu yn perfformio i'w eithafoedd gan ddangos creadigrwydd a dychymyg.
"Mae llawer o dimau yn y byd yn newid y dull o chwarae a chredir mai un o鈥檙听 gorau yw鈥檙 Eidal. Ar 么l cyfnod o fod yn o鈥檙 ddibynnol ar ddulliau amddiffynol, mae eu rheolwr presennol, Cesare Prandelli听 am weld chwarae mwy ymosodol鈥.
Dechreuodd yr Eidal eu newid ar 么l perfformiad digalon yn South Affrica 2010 ac mae eu chwarae deniadol gyda Mario Baloteli ar y blaen yn cael ei fwydo gan Andrea Pirlo o ganol cae yn dystiolaeth i newid yr agwedd a fu . Os gall yr Eidal newid eu hagwedd, fe all llawer i un arall.
Ond nid dyna'r holl stori. Mae timau, gan amlaf, 听yn gosod un chwaraewr amddiffynol o flaen eu dau amddiffynwr canol, gan annog y cefnwyr, de a chwith, 听i ymosod i lawr yr esgyll. Mae rhai timau yn gwneud hyn yn well nac eraill, ac yn meddu ar well chwaraewyr i basio'r bel yn gywir a chyflym drwy ganol y cae. Roedd perfformiad yr Iseldiroedd yn erbyn Sbaen yn enghraifft dda o hyn.
Yn olaf, mae鈥檙 cefnogwyr wedi ychwanegu at yr 诺yl hefyd. Mae blogiau teithiau Dylan Llewelyn yn gyson disgrifio'r听 awyrgylch a鈥檙 brawdgarwch syn bodoli, gyda鈥檙 lluniau sydd yn cael ei osod ganddo yn dangos听 blas y g锚m ar ei orau. Does ond i ni edrych ar yr hapusrwydd, y lliwiau, y cyd-ddathlu, y gobeithion a'r lliwiau a鈥檙 canu sydd yn cael eu cynnal gan y cefnogwyr i ddeall fod ysbryd y g锚m yn fyw ac iach ym Mrasil. Does dim neges well i'w anfon na dangos y gellir cynnal gemau p锚l droed rhyngwladol mewn ysbryd o frawdgarwch a heddwch a fyddai'n gosod esiampl a rhoi gwers听 mewn gwleidyddiaeth i听 lawer o arweinwr politicaidd y byd ohoni.听听
Mae Cwpan y Byd yn ei chartref ysbrydol - boed i ni gyd dderbyn a rhannu ychydig o'r awyrgylch听 a gwneud ein rhan i barchu听 amrywiaeth a dileu casineb ar draws y byd. Mae鈥檙 esiamplau a'r rhagoriaethau wedi ei gosod.