Main content

Cymru, Cape Verde, Celeste a Lionel Richie

Dylan Llewelyn

Blogiwr Ar y Marc

Yn amlwg roedd yna elfen o risg ynghlwm a'n penderfyniad llynedd i lunio teithlen Cwpan y Byd gan ddewis dinasoedd yn hytrach na disgwyl i ddewis ein gemau.

Ond tra bo rhai wedi chwerthin a gwawdio pan ddaeth yr enwau allan o'r het i gynnig gemau Iran - Nigeria yn Curitiba a Honduras yn erbyn Y Swistir ymhell bell lawr yr Amazon ym Manaus, roedden ni wrth ein boddau gyda'n dewis eclectig. Wedi'r cwbl, onid gweld llefydd gwahanol a gwylio timau gwahanol oedd holl bwrpas ein taith?

Yr un gêm a gawsom, lwyddodd i dynnu dŵr o ddannedd pobol oedd Lloegr benben ag Iwragwai yn Arena Corinthians. Falle fod y tri ohonom yn greaduriaid sy'n mwynhau edrych ar bethau yn wahanol, ond wir i chi, doedden ni ddim yn edrych ymlaen at fod yn rhan o syrcas San Sior yn Sao Paulo.

Oriel luniau Dylan Llewelyn, panelydd Ar y Marc, ym Mrasil.

Dydw i erioed di cefnogi Lloegr mewn unrhyw gamp. Fedrai ddim. Yn gynta', tydi jyst ddim yn rhan o'm natur. Ac yn ail, mae'r holl halibalŵ cyfryngol ynghyd a'r agwedd drahaus tuag at wledydd eraill wedi ei gymysgu gyda mwy na phinsiad o awyrgylch ymosodol yn golygu mai dim ond ar ôl i Loegr hedfan gartre alla'i ddechrau mwynhau cystadlaethau go iawn.

Does dim rhyfedd fod ni'n edrych yn anesmwyth wrth dalu 3 reial, llai na phunt yr un, am y daith Metro o gyfoeth masnachol yr Avenida Paulista heibio tyrrau concrid rif y gwlith tuag at y stadiwm, wrth wrando ar griwiau bochgoch a phenfoel uchel eu cloch o "Roy Hodgson's Barmy Army". O leiaf doedd y band bondigrybwyll ddim yna i'n byddaru gyda Rule Brittania, England Til I Die a'r Great Escape gan fod yr awdurdodau wedi eu gwahardd.

Gymrodd hi ambell gwrw ar stryd ger y stadiwm i sadio'r nerfau a chodi'n calonnau. Ac yn sydyn iawn trodd yr hunllef yn un o'n dyddiau mwya’ cofiadwy wrth ddilyn pêl-droed dros bedwar degawd.

Cawsom ddwy awr swreal yn tynnu lluniau a sgwrsio gyda chefnogwyr o bedwar ban byd. Cefais dynnu llun gyda boi oedd yn honni fod o'n frawd i Marcelo, cefnwr chwith Real Madrid, ond uchafbwynt y pnawn heb os oedd canu caneuon Lionel Richie gyda dau ddyn o Ynysoedd Cape Verde oedd yn digwydd byw yn ninas Santos, sef cartre’ Pele a Neymar wrth gwrs.

Brawd Marcelo?

Os ydyn ni 'n credu ein bod ni wedi cael cam dros y blynyddoedd, roedd gan rain reswm gwirioneddol dda i fod yn flin. Roedd eu hynysoedd bychain oddi ar arfordir gorllewinol Affrica wedi perfformio'n wych ond ar ôl dewis chwaraewr nad oedd yn gymwys mewn un gêm, cawsant eu diarddel gan golli eu cyfle i fynd i Gwpan y Byd am y tro cynta' erioed. Doedd gweld perfformiadau tila ac annisgybledig Camerwn, y wlad gafodd le Cape Verde, ddim ond yn halen ym mriwiau'r ynyswyr.

I godi'n calonnau ymhellach roedd y môr o las golau o'n hamgylch yn awgrymu fod nifer sylweddol o boblogaeth Wrwgai wedi teithio i Sao Paulo. Ond heb os roedd trwch y 65,000 yn cefnogi Lloegr. Y rheswm syml am hyn oedd y Marcanazo. Nid dawns mo hyn ond yr enw a roddwyd i'r gêm enwog yn y Maracana ym mis Gorffennaf 1950 pan drechwyd Brasil gan yr Wrwgwaiaid o flaen bron i ddau gan fil o gefnogwyr. Ail Gwpan Byd i Wrwgwai fach ac embaras cenedlaethol i'r Brasiliaid. Roedd heddiw yn gyfle i ddial drwy ddoniau rhai o sêr cyfoethoga’r byd pêl-droed sydd yn chwarae yng nghynghrair gorau'r bydysawd.

Wel am gêm! Wrwgwai yn brwydro am bopeth efo Arevalo Rios yn ennill pob tacl yng nghanol cae a Luis Suarez yn beryg bywyd ar un goes yn y llinell flaen.

A gyda chriw o Beriw, Mecsico, Honduras, El Salvador a Gwlad yr Ia o'n hamgylch a gyda Gwilym yn bloeddio "Cardiff and Uruguay will always be blue" cawsom awr a hanner cwbl cwbl gofiadwy a ffrwydrodd pan waldiodd Suarez ei ail heibio i Hart.

Lloegr yn fwy Lionel Blêr na Lionel Richie, ac ar fin gadael Brasil cyn gorffen eu tabledi anti-malaria hyd yn oed. A ninnau, fel ein cyfeillion newydd o Wrwgwai yn Dawnsio ar y nenfwd drwy gydol y nos.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Rhagoriaeth yng Nghwpan Y Byd

Nesaf