Main content

Arwerthiant Pel-droed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Faint o geriach sydd gennych chi yn yr atig?

Os ydych , fel fi yn un am gasglu a chadw pob math o drugareddau yn ymwneud a pheldroed, yna hwyrach fe fydd yna reswm ichi ymweld ag arwerthiant Bonhams yng Nghaer ar y pedwerydd ar bymtheg o Fehefin.

Yno, mae ocsiwn o eitemau o fyd chwaraeon, gan gynnwys nifer o eitemau yn ymwneud a pheldroed.

Tra cewch gynnig am grys replica Cymru wedi ei arwyddo gan Gareth Bale, neu grysau a wisgwyd dros Gymru gan Craig Bellamy neu Robert Page. Yn ogystal mae yna grys Manchester United fel ac y gwisgwyd gan Ryan Giggs hefyd yn yr arwerthiant.

Ond yr eitem fwyaf costus yn ei amcangyfrif o werth ydi medal enillwyr Cwpan y F.A. yn 1926, sef Bolton Wanderers. Disgwylir i鈥檙 fedal yma gael ei gwerthu am rywbeth rhwng pump a saith mil o bunnoedd, tra mae medal Everton, enillwyr y Gwpan yn 1906, yn debygol o gael ei gwerthu am ryw bump neu chwe mil o bunnoedd.

Os am brynu rhaglen peldroed, mae rhaglen gem olaf Manchester United, cyn trychineb Munich, sef y g锚m oddi cartref yn Red Star Belgrade yn cael ei gynnig am ryw ddwy fil o bunnoedd.

Bydd un o gapiau rhyngwladol John Charles ar werth hefyd , o dymor 1953 am y gemau yn erbyn Gogledd Iwerddon, Ffrainc ac Iwgoslafia. Amcangyfrif o werth y cap yn 么l Cwmni o arwerthwyr? Rhwng dau a thri mil o bunnoedd.

Rhyw ddwy flynedd yn 么l fe es draw i weld un o鈥檙 ocsiynau yma yng Nghaer, ble roedd y fedal a enillodd George Best yn 1968 wrth ennill Cwpan Ewrop dros Manchester United yn erbyn Benfica, yn cael ei gwerthu am 拢156,000! Gallaf eich sicrhau fy mod ac ofn chwythu fy nhrwyn, rhag ofn i rywun feddwl fy mod yn rhoi cynnig!

Ond os ydych ynn casglu rhaglenni, yna byddwch 芒 diddordeb yn y stori am y rhaglen o ffeinal Cwpan Lloegr, a gynhaliwyd ar faes yr Oval yn 1882, sef y g锚m rhwng Old Etonians a Blackburn Rovers . Gwerthwyd y rhaglen yma yn ddiweddar am 拢35,250.

Pwysigrwydd y g锚m ydi mai dyma鈥檙 tro olaf i d卯m amatur fod yn llwyddiannus yn y Gwpan, yr Etonians yn fuddugol o un g么l i ddim yn erbyn t卯m proffesiynol newydd Blackburn Rovers.

Cyn yr arwerthiant yma gafodd ei gynnal ar ddechrau鈥檙 mis yma, y pris mwyaf a dalwyd am raglen gem beldroed oedd 拢25,5000 a hynny am ffeinal Capan y F.A. yn 1909 rhwng Manchester United a Bristol City.

Gyda llaw, clwb yr Old Etonians a brynodd y rhaglen am ei hen d卯m yn y ffeinal bwysig yma yn 1886.

Mae'r clwb yn dal i barhau hyd heddiw a chael ei gynnal gan gyn-ddisgyblion ysgol fonedd Eton. Mae鈥檔 aelod o gynghrair cyn ddisgyblion ysgolion fonedd Prydain, sef Chynghrair Arthurian sydd yn cael ei warchod gan gyfundrefn y Gyngres Amatur Peldroed, ac yn annibynnol o drefn y Gymdeithas Beldroed erbyn heddiw.

Felly , os oes gennych ychydig o hen raglenni mewn bocs yn yr atig, yna dyma'r amser i balu trwyddynt. D鈥檕es wybod beth y gallwch ei ddarganfod!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog cefn llwyfan Nia - dydd Mawrth

Nesaf

Blog cefn llwyfan Nia - dydd Mercher