Main content

Blog cefn llwyfan Nia - dydd Mawrth

Nia Lloyd Jones

Gohebydd Radio Cymru

Tagiwyd gyda:

Disgbylion hynaf yr ysgolion cynradd聽oedd yn cystadlu heddiw, ac os oeddech chi'n chwilio am siaradwyr da - wel cefn llwyfan oedd y lle i fod yn sicr.

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gynradd Bontnewydd ar ennill cystadleuaeth gynta'r dydd - cerddorfa / band blwyddyn 6 ac iau.

Mae hi wedi bod yn fis llewyrchus iawn iddyn nhw gan eu bod nhw hefyd wedi dod yn Bencampwyr Prydain yn ddiweddar, a'u diolch yn fawr i'w athro,聽Dylan Williams.

Eddie Mead

Eddie聽Mead oedd un o'r s锚r heddiw - yn聽ennill ar yr聽unawd pres hefo'i gorned, a'r unawd llinynnol hefo'r 'cello.聽

Ym mis Medi fe fydd o yn mynd i astudio yn Ysgol Yehudi Menuhin.聽 Mae o'n ymarfer y ddau offeryn am o leiaf awr y dydd a phan fydd ganddo amser i ymlacio mae o'n hoff iawn o wylio ffilmiau James Bond.

Hogan brysur iawn ydy Elizabeth Mwale oedd yn cystadlu ar yr unawd blwyddyn 5 a 6. Mae'r teulu yn dod yn wreiddiol o Zimbabwe, er bod Elizabeth wedi cael ei magu yng Nghymru. Yn ogystal聽芒 chanu'n unigol, mae hi a'i ffrindiau wedi ffurfio grwp pop hefyd sef Paradwys, a'r gobaith ydy y byddan nhw yn cystadlu yn yr Eisteddfod cyn hir.

Elizabeth Mwale

Testun cystadleuaeth y grwp cerddoriaeth greadigol bl.6 ac iau oedd m么r ladron, ac fe gawson ni amrywiaeth o offerynnau ar y llwyfan 'na heddiw - o botyn siytni mango, bongos, drwm olew 50 galwyn a theclyn rhyfedd iawn o'r enw 'boom wacker'!


Braf iawn oedd cael sgwrs hefo Ysgol Gynradd y Fenni - y criw lleol go iawn!聽 Maen nhw wedi mwynhau'r holl baratoadau ar gyfer yr Eisteddfod eleni, ac yn edrych ymlaen yn arw at y sioe yn y pafiliwn heno聽sef 'Pentigili'.聽 Mi gawson ni drafodaeth dda ynglyn a'r manteision o gael yr wyl yn lleol - a'r prif rai oedd cael aros yn eich gwely eich hun, a pheidio gorfod codi am 3.30am i deithio i'r Eisteddfod!!

Un peth dw i wedi ei ddysgu heddiw ydy nad ydy Si么n Dafydd Edwards yn licio ogla' moch!聽 Roedd Si么n yn cystadlu ar yr unawd cerdd dant heddiw - hefo Michael Pritchard a Deio Llyr Davies Hughes, ac mae'n debyg ei fod o yn aros mewn sgubor - rhywle yn yr ardal.聽 Yr unig gwyn oedd ganddo - oedd yr ogla moch yno!

Ysgol Gynradd y Fenni

I gloi'r cyfan聽 - mi ges i sgwrs hefo C么r Cerdd Dant Ysgol y Dderwen - oedd yn griw hynod o fywiog a聽siaradus!!聽

Roedden nhw dan yr argraff eich bod chi'n siwr o ennill聽os oeddech chi'n canu'n drydydd ar y llwyfan!聽Dw i ddim yn meddwl bod hyn yn gweithio bob tro, ac yn anffodus doedd o ddim yn wir heddiw, ond diolch o galon iddyn nhw am fod mor barod i sgwrsio gefn llwyfan!

Mi fydda i n么l eto bore fory!

Tagiwyd gyda:

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog cefn llwyfan Nia - dydd Llun

Nesaf

Arwerthiant Pel-droed