Main content

Ar y Marc: Cymru v Gwlad Belg

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda’r holl heip sydd wedi codi'r wythnos yma cyn y gêm fawr yn erbyn Gwlad Belg nos Wener, mi fyddai unrhyw un yn meddwl fod Cymru wedi cyrraedd ffeinal Ewro 2016!

Ond, fel ‘mae bron pawb yn gwybod, fe fyddai buddugoliaeth i Gymru yn gam enfawr ymlaen tuag at y nod o gael trip dros y Sianel y flwyddyn nesaf.

Tydi gorfod curo timau da ddim yn rhywbeth newydd i Gymru, cafwyd gem allweddol yn erbyn Sbaen ‘nol yn1985, Yr Almaen a oedd yn bencampwyr y byd yn 1991, a’r Eidal yn 2002.

Ond er gwaethaf y buddugoliaethau, doedd hyn yn cyfrif i ddim wrth i'r freuddwyd o gymhwyso pellach ddiflannu.

Ar hyn o bryd mae Gwlad Belg yn ail yn rhestr detholion FIFA a byddai buddugoliaeth drostynt yn ganlyniad enfawr. Ond mae mwy i bêl droed Cymru na churo tîm da a cholli i bawb arall erbyn heddiw.

Byddai tri phwynt i Gymru yn dod a ni i bedwar pwynt ar ddeg, tri yn fwy na’r Belgiaid, a gyda gemau cartref yn erbyn Israel ac Andorra i ddod - wel does dim rhyfedd ein bod i gyd yn llawn heip a breuddwydion.

Dwi'n ddigon hen i gofio Cymru yn cystadlu yn ffeinals Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958 a dod o drwch blewyn i guro Brasil yn rownd yr wyth olaf. Ond gyda’r ddau dîm yn gallu cymhwyso o gr诺p Cymru yn y gystadleuaeth yma, dwi, fel pawb arall yn llawn hyder a hefyd o'r oed i sylweddol na fyddai’n gallu aros cyhyd am siawns arall!

Tipyn o syndod oedd deall fod Gwlad Belg wedi trefnu gem gyfeillgar y penwythnos diwethaf, ac fe oedd ‘na gryn feirniadaeth o fewn y wasg am i’r Belgiaid fynd ati I drefnu’r gem.

Ond gyda chanlyniad yn dangos eu bod wedi curo Ffrainc o bedwar gôl i dair, sgôr a oedd yn eithaf caredig i Ffrainc, mae’n bur debyg y bydd rheolwr Gwlad Belg, Marc Wilmots yn teimlo'n hollol hunan gyfiawn am y trefniant yma.

Bydd y tîm yn si诺r o gyrraedd Caerdydd yn llawn hyder er gwaethaf y newyddion am anaf un o’i chwaraewyr mwyaf allweddol, sef Marouane Fellaini o Manchester United. Wedi dweud hynny fe fydd rhaid u Gymru ymdopi a bygythiadau Eden Hazard o Chelsea, chwaraewr y flwyddyn yn Uwch gynghrair Lloegr eleni, wrth iddo drefnu dull a rhediad chwarae'r Belgiaid o ganol y cae.

Bydd y blaenwr Christian Benteke angen ei gadw’n dawel ac er mai gydag Aston Villa y mae o ar hyn o bryd, mae llygaid ambell o dimau mwyaf yr Uwch gynghrair yn ymddangos fel petaent am ei ddenu o Villa Park ar gyfer y tymor nesaf.

Y tu ôl i rhain mae'r amddiffynnwr Jan Vertongen o Tottenham a’r golwr Thibaut Courtois o Chelsea.

Does dim amheuaeth y bydd yn gêm a hanner yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gem allai fod o gymorth enfawr i'r ddau dîm yn eu hymdrech i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Does ond gobeithio mai breuddwydion y Cymry fydd yn cael eu gwireddu.

Gwyliwch y goliau – goliau Cymru!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cymru v Gwlad Belg - y fuddugoliaeth!