Main content

Cymru v Gwlad Belg - y fuddugoliaeth!

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ble mae rhywun yn dechrau? Erbyn heddiw mae bron popeth wedi ei ddweud, wedi ei ysgrifennu, wedi ei ganu, wedi ei drafod, wedi ei ganmol, wedi ei orfoleddu, wedi ei ddarlledu, wedi ei ddathlu ond mae gwefr y noson yn parhau.

Nefar in Ewrop? Scersli bilîf! Sacre bleu,’dan i ar y ffordd i Ffrainc!

Ara’ deg, curwyd Sbaen yr Almaen a’r Eidal yn y gorffennol cyn llithro i dimau llai, ac am y gic o'r smotyn ‘na a darodd trawst Rwmania!

Ie, er waethaf yr holl orfoledd, mae mynyddoedd o flynyddoedd o brofiad a siom yn sicrhau fy mod yn dal i fod yn  bryderus hyd nes y daw'r eiliad o fewn yr arw farw pan fydd y frwydr at gymhwyso wedi ei hennill.

Plîs, plîs , plîs - dwi ddim eisiau colli i Andorra a gweld fy nghrêps yn mynd lawr y bidet!

Curo’r ddwy gêm nesaf ac fe allwn ddefnyddio’r gêm yn erbyn Andorra fel gem baratoadol i dîm Ynys Môn gyn iddynt gystadlu yng ngemau’r ynysoedd!! ( gem a fyddai'r Monwysiaid yn gallu ei hennil gyda llaw!!). Ond, dyna fi eto, rhaid peidio â mynd dros ben llestri , a chadw trefn arnaf fy hun ac ymddwyn. Cuprys oddi cartref nesa, a meddwl dim pellach na hyn!

Roeddwn wedi cael sedd yn weddol agos i gefnogwyr Gwlad Belg yn y gêm, a doedd dim amheuaeth eu bod yn llawn hyder cyn y gêm . Oll yn eu crysau cochion ac yn llawn eu cân a chanmoliaeth i'w arwyr byd eang. Ac am ugain munud, roeddwn yn rhyw gredu y gallai’r hyder yma gael ei wireddu, wrth i'w tîm gadw meddiant ar ôl meddiant. Ond meddiant lletraws oedd hwn gan amlaf ac fe ddaeth yn amlwg for yna drefn a disgyblaeth ymysg Cymru i gadw’r bel oddi wrth geg y gôl, a lleihau unrhyw fygwth.

Byddai'r rheini sydd yn credu mewn tystiolaeth ystadegol wedi drysu erbyn diwedd y gêm yma gyda Chymru yn hollol fodlon i adael i’r Belgiaid gadw meddiant, a sicrhau na fyddai unrhyw dreiddiant barhaus yn arwain at gyfleoedd bygythiol  y tu cefn i amddiffynwyr Cymru.

Mwy nag unwaith fe daflwyd corff coch i gyfeiriad y bel,gan rwystro ymosodiad ar ol ymosodiad, gwelwyd taclo amserol ac ar yr adegau y cyrhaeddodd y croesiadau, isel neu uchel, roedd Wayne Hennesey yn y gôl y barod i'w llyncu’n ddiogel gan sicrhau i weddill y tîm ei fod yn barod i roi terfyn ar unrhyw hyder Belgaidd.

Yna eiliad hudolus byd y Bale, Syr Gareth yn cael hanner cyfle, rheoli,  troi, trosi, camu, anelu, a gosod y bel heibio’r linell gan arwain y cefnogwyr i fyd real, afreal.

Newidiwyd cwrs y gêm, gyda chefnogwyr y Belgiaid yn cael eu hatgoffa nad oeddynt yn canu mwyach. Ymateb yr ymwelwyr oedd clochdar mai dim ond pan yn enill oeddym yn canu. A dyna a ddigwyddodd. 

Daeth y stadiwm yn ganiadaeth gysegredig o gymanfa beldroedaidd genedlaethol ,  yn stadiwm gadeiriol gerddorol o gefnogaeth gwladgarol nas gwelwyd ar gae chwarae cenedlaethol ers peth amser.

Ac ie, dwi’n cynnwys y cae hwnnw ble mae pobl yn ei fynychu er mwyn dweud eu bod wedi bod yno ar gyfer achlysur yr 'international' yn hytrach chefnogi’r genedl tra’n  gan edrych fel daffodils (pedier a sarhau'r cennin Pedr) ac yn treulio’r amser yn yfed cwrw yn hytrach na chefnogi eu tîm. Ie, gwelwyd cefnogaeth genedlaethol ar ei orau nos Wener.

Yna ennyd hudol arall, y cyd ganu o Hen Wlad fy Nhadau a ddisgynodd fel mantell soniarus anweledig o’r nefoedd hanner ffordd drwy’r ail hanner. Roeddym i gyd yn gwybod ein bod ymysg newyddion da o lawenydd mawr am atgyfodiad yr ail enedigaeth.

Trois i'r chwith a’r ddiwedd ein hanthem a dyna ble roedd cefnogwyr y Belgiaid yn syfrdanol gymeradwyo wrth gydnabod  eu bod hwythau hefyd yn profi dadeni anhygoel a hudol, wrth wylio eu praidd gerllaw llechwedd y brif ddinas fin nos.

Mae Cymru ar fin cyhoeddi eu presenoldeb cyfoes ar lwyfan byd eang, a hyn wrth i’r chwaraewyr ymateb i drefn a disgyblaeth Chris Coleman ac Osian Roberts, heb son am ddefnyddio pob owns o egni a’u medrau personnol ar y cae i gofleidio'r wawr ddisgleiriol llachar.

Mae’r Gymdeithas Bel Droed o dan arweinyddiaeth y llywydd, Trefor Lloyd Hughes (sydd yn dod i ddiwedd ei gyfnod fel y llywydd) wedi gweld pêl droed Cymru yn cael ei Gymreigeiddio yn fwy nag erioed i mewn i fywyd a diwylliant y genedl, ac mae Ewrop a'r byd cyfan ar fin cydnabod a chroesawu'r Gymru newydd i fyd cyfoes a chystadleuol yr unfed ganrif ar hugain.

Ac yn y nefoedd, uwchben hyn oll, rwy’n siwr fod yna un yn edrych i lawr ac yn methu tynnu ei lygaid oddi arnom.

Ie Gary, mi fydd popeth yn ‘alright’ 

Come on Cymru; ‘ I love you baby!’

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Ar y Marc: Cymru v Gwlad Belg

Nesaf

Sgript Slam Gomedi