Main content

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr - 1af o Fehefin 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Sir y Fflint - pasiant

Gwyl - Festival
uchafbwyntiau - highlights
pasiant - pageant
fferins - sweets
prif gymeriadau - main characters
gwisgoedd gwahanol - different costumes
ysbrydion - ghosts
balch - proud
cyfeillion yr ysgol - friends of the school
pwyllgor - committee

...mae Eisteddfod yr Urdd ymlaen yn Sir yFflint ar hyn o bryd, ac mi fydd miloedd o blant yn mwynhau'r Wyl ac yn cystadlu drwy'r wythnos. Un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod ydy pasiant y plant cynradd ac mewn rhaglen arbennig o Sir y Fflint mi fuodd Darren Morris, sy'n gweithio i'r Urdd yn y sir, yn siarad efo rhieni oedd yn helpu efo’r pasiant...

Aled Hughes - Iwan Rheon

gweithgar - hard working
creulon - cruel
cymeriad - character
y chweched gyfres - the sixth series
golygu - to mean
yn dueddol o - tends to
cyfnod - period (of time)
synnu - to be surprised
chwalu - to destroy
ffyrdd gwell - better ways

"..a dw i'n siwr bydd y pasiant yn wych, a bydd rhan o'r diolch am hynny i rieni gweithgar Sir y Fflint. Ydych chi'n gwylio'r gyfres Game of Thrones? Mae hi'n gyfres hynod o boblogaidd ac mae un cymeriad sy'n arbennig o greulon - Ramsey Bolton. Iwan Rheon ydy'r actor sy'n chwarae rhan y dyn drwg yma, a dw i'n siwr bod Aled Hughes ychydig bach yn ofnus wrth siarad efo fo ddydd Iau..."

Geraint Lloyd - Meic Heines

syniad - idea
gwastraffu amser - wasting time
ymhlith pethau eraill - amongst other things
dod mas - to come out
anffurfiol - informal
anghenus - needy
llwyth mawr - a huge load
lleianod - nuns
lloches - shelter
di-gartref - homeless

"Iwan Rheon yn fan'na yn sôn ychydig wrth Aled Hughes am ei brofiadau wrth actio yn Game of Thrones. Cymeriad hollol wahanol i Ramsey Bolton ydy Meic Haines o ardal Abertawe. Mae o wedi dechrau clwb cerdded yn yr ardal ond fel buodd o'n dweud wrth Geraint Lloyd nos Fercher, mae o'n defnyddio'r clwb i helpu pobl sydd yn llai ffodus nag o..."

Beti a'i Phobol - Alun Owens

cysylltiadau - connections
myfyriwr aeddfed - mature student
difrifol - serious
synnu ar yr ochr orau - pleasantly surprised
cymdeithasol - social
cyhyrau - muscles
calan gaeaf - Halloween
elfen feddygol - medical element
o fewn - within
yn ddiogel - securely

"Meic Haines yn fan'na yn sôn am sut mae ei glwb cerdded yn helpu'r anghenus a'r di-gartref. Roedd gwestai Beti George ddydd Sul efo cysylltiadau cry iawn ag Eisteddfd yr Urdd eleni. Mi roedd Alun Owens yn arfer bod yn bennaeth ar Ganolfan yr Urdd yng Nghaerdydd ond mae o'n dod o Sir y Fflint yn wreiddiol. Mae Alun wedi penderfynu mynd yn ôl i’r coleg i ddilyn cwrs meddygaeth, newid mawr i'w fywyd o. Mae o yn ei bedwardegau rwan felly sut brofiad oedd bod yn fyfyriwr aeddfed? "

Mwy o negeseuon

Nesaf

Ffwtbol a Fflêrs: Cofio Arwyr ’76