Main content

Ffwtbol a Fflêrs: Cofio Arwyr ’76

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Bonjour mes amis, a dyna ni , hir yw pob ymaros. Ond helo Bordeaux!

Does dim angen i mi ddechrau anfon negeseuon o ddymuniadau da i ‘r tîm wrth iddynt gychwyn ar yr ymgyrch yn Euro 2106 yn Bordeaux , mae digon wedi ei ddweud ganddo i gyd yn barod.

Mae yna ganeuon wedi eu canu , a dim un gwell na Hogia' Ni gan y grŵp Gwerinos ac Ywain Gwynedd, mae yna raglenni radio a theledu di ri wedi eu cynhyrchu i nodi’r achlysur a chyflawniad ein tîm cenedlaethol presennol. Tra mae llawer ohonom wedi cychwyn, a chyrraedd i gefnogi'r tîm cenedlaethol ym mhencampwriaethau UEFA Euro 2016, mae sawl un, gan gynnwys , gohebyddion a newyddiadurwyr yn prysur orfoleddu mai dyma'r tro cyntaf i Gymru i gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw bencampwriaeth ers cystadleuaeth Cwpan y Byd Sweden ym 1958.

Ond mae cyflwynydd rhaglen ddogfen newydd ar S4C, John Hardy, yn grediniol bod hyn yn anghywir. Mewn rhaglen arbennig, bydd John yn ein hatgoffa o gamp rhyfeddol aeth yn angof, pan gyrrhaeddodd carfan bêl-droed Cymru wyth olaf Pencampwriaethau Ewrop ym 1976. Darlledir Ffwtbol a Fflêrs: Cofio Arwyr ’76 nos Iau nesaf, 9 Mehefin ar S4C am 21.45.

Dywed John mai’r gwir amdani ydy fod carfan 1976 yn un o'r timau gorau yn Ewrop. Ond oherwydd bod fformat Pencampwriaeth Ewrop bryd hynny wedi golygu mai dwy gêm dros ddau gymal oedd trefn yr wyth olaf , mae llwyddiant y tîm yma wedi cael ei anghofio. Tra bo 32 o wledydd yn cystadlu yn Ffrainc eleni, dim ond pedair gwlad oedd yn cwrdd mewn un lleoliad yn y Bencampwriaeth, a hynny yn y gemau cyn derfynol."

Ym 1976, llwyddodd Cymru, o dan reolaeth y Sais cymharol ddibrofiad, Mike Smith, i gyrraedd wyth olaf Pencampwriaethau Ewrop, gan orffen ar frig eu grŵp o flaen Hwngari, Awstria a Lwcsembwrg.

Daeth hyn a hwy i wynebu Iwgoslafia yn yr wyth olaf ond er mai colli fu'r hanes, mae yna fwy am y gêm yma na chanlyniad. Roedd y siom a'r teimlad fod yna dwyllo o fewn y byd pêl droed wedi effeithio ar ganlyniad y gêm, roedd y cefnogwyr yn hollol anniddig erbyn diwedd y gêm , gan arwain at helynt ym Mharc Ninian. Oherwydd hyn, fe gafodd Cymru eu gwahardd am gyfnod rhag cystadlu yn y Pencampwriaethau Ewrop nesaf (er adennill eu lle wedi apêl lwyddiannus).

Mae John y tynnu ein sylw at y chwaraewyr talentog a oedd yn aelodau o'r garfan, chwaraewyr fel " John Toshack, Leighton James, Terry Yorath. Ond mae pobl yn cofio terfysgoedd yng Nghaerdydd yn hytrach na'r pêl-droed. Mae'r ffaith bod bechgyn 1976 yn cael eu hanghofio yn dân ar fy nghroen i."

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gyda nifer o’r garfan, gan gynnwys y capten Terry Yorath, John Mahoney, Leighton James, Dai Davies ac Arfon Griffiths. Dyma oedd arwyr Cymru yn y Saithdegau ac yn wir, llwyddodd Arfon Griffiths, y chwaraewr canol cae 34 oed o Wrecsam i gipio Tlws Personoliaeth Chwaraeon Ö÷²¥´óÐã Cymru yn 1975. Ond er ei lwyddiant, dim ond un gamp oedd yn teyrnasu yn y saithdegau, olygai nad oedd y pêl-droedwyr yn cael sylw yn haeddiannol. Roedd tîm rygbi Cymru yn gewri yn eu maes eu hunain bryd hynny, ac yn hawlio pob math o sylw drwy gampweithiau Barry John, Gerald Davies a Gareth Edwards. Er hynny, Arfon oedd tywysog y byd pêl droed ac fe gafodd ei alluoedd eu cydnabod wrth iddo gael ei goroni yn Bersonoliaeth y flwyddyn, er waethaf sylw'r byd rygbi i'w arwyr hwythau.

Fel un oedd yn y gêm honno yn ’76, mae gen innau atgofion o’r diwrnod, atgofion o;’r cefnogwyr wedi cael llond bol o benderfyniadau annealladwy'r dyfarnwr o Ddwyrain yr Almaen, Rudi Gloeckner, a’r agwedd drahaus a oedd ganddo tuag at , fel yr ymddengys, bopeth Cymreig; neb i'w gyfarfod ym mae awyr Heathrow (cafodd ei atgoffa mai yn Lloegr oedd Heathrow ac y byddai rhywun yn ei groesawu pan fydd yn cyrraedd Cymru) , a dim baner ei wlad ar do Parc Ninian, na chwaith drefniadau i chwarae anthem ei wlad cyn y gêm!.

Mae’r rhaglen yma wedi cyflawni hyn i'r eithaf a mawr yw ein dyled iddo fo, a thîm cynhyrchu "Ffwtbol a Fflêrs: Cofio Arwyr ‘76" am ein atgoffa mor fyw, personol a chyffrous o'r gampwaith gam rai a osododd feini prawf sydd ond yr wythnos yma yn cael eu hefelychu gan ein carfan bresennol.

Mwy o negeseuon

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mehefin 6ed-10fed