Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 16/06/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Bore Cothi - Daniel Jenkins

y gog - cuckoo
tylluan wen - barn owl
arolwg - survey
dychwelyd - to return
di-nod - insignificant
nythu - to nest
arwrol - heroic
boddi - to drown
addasu - to adapt
ffwrnesi - furnaces

...ac mae gen i gwestiwn i chi. Be' ydy eich hoff aderyn chi? Be' am y gog neu'r dylluan wen? Y fflamingo neu'r bwji? Wel, yn ôl arolwg diweddar, y robin goch ydy aderyn mwya' poblogaidd Prydain. A hoff adar oedd testun sgwrs Shan Cothi gyda Daniel Jenkins o'r RSPB fore Mawrth.'Sgwn i ai'r robin goch ydy hoff aderyn Daniel?

Geraint Lloyd - The Cube - Rhodri Jones

dyfalu - to guess
penderfyniad - decision
temtasiwn - temptation
cyfresi - series
naid - jump
ymlaen llaw - in advance
tarw - bull

Daniel Jenkins yn fan 'na yn siarad am wennol y glennydd. Nos Fercher mi enillodd Rhodri Jones o Lanuwchllyn £50,000 ar raglen 'The Cube' ar ITV, a Geraint Lloyd wnaeth ei holi am y profiad. Be' fasech chi'n wneud gyda £50,000? Wel, wnewch chi fyth ddyfalu be' mae Rhodri am ei brynu gyda'r arian!


Dylan Jones - Gwyl Llif

breuddwydion - dreams
anhygoel - unbelievable
llif - saw
cynrychioli - o represent
nodau - notes
gwneuthurwyr - makers
plygu - to bend
arswyd - horror

a gobeithio y bydd Rhodri yn dod o hyd i darw ei freuddwydion cyn bo hir! Ac o un stori anhygoel i'r llall. Oeddech chi'n gwybod ei bod hi'n bosib canu llif? Wel, Branwen Nash o Gwm Pennant aeth i Efrog Newydd yn ddiweddar i gynrychioli Cymru mewn Gwyl Lif Cerddorol. Pa fath o swn mae llif yn ei wneud, dw i'n eich clywed chi'n gofyn? Dyma glip o Branwen Nash ar raglen Dylan Jones fore Iau yn chwarae ei llif arbennig.

Bore Cothi - Dysgwr y Flwyddyn - Debora Morgante

nod - objective
llwyddo - to succeed
rhestr fer - shortlist
darganfod - to discover
mynegi - to express
ysbrydoliaeth - inspiration
angerdd - passion

Branwen Nash yn chwarae'i llif yn fan 'na. Swn arbennig, yn tydy? Dach chi'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni? Mi fydd hi'n cael ei chynnal yn ardal Meifod ac un o'r prif gystadlaethau eto eleni ydy cystadleuaeth 'Dysgwr y Flwyddyn'. Nod y gystadleuaeth ydy dathlu pobl sy' wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg ac un o'r bobl sy' wedi cyrraedd y rhestr fer ydy Debora Morgante. Mae Debora yn dwad o Rufain yn wreiddiol ac mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd a hanner. Shan Cothi gafodd sgwrs gyda Debra i ddarganfod mwy am ei diddordeb yn y Gymraeg.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Sgript Slam Gomedi

Nesaf

Datblygiad pel-droed a threnau