Pan oeddwn yn hyffordd tîm pêl droed Tref Croesoswallt beth amser yn ôl roeddwn yn ymwybodol iawn o hanes a chysylltiad pêl droed yr ardal a datblygiad pêl droed Cymru.
Y Sul yma, rhwng un a’r ddeg y bore a phump y prynhawn, bydd arddangosfa arbennig yn cael ei chynnal yn Hen Orsaf yng Nghroesoswallt i godi arian at achos T欧 Gobaith Conwy a Chroesoswallt.
Bydd yr arddangosfa yn olrhain pwysigrwydd y rheilffyrdd o fewn datblygiad pêl droed yn ardal Croesoswallt a gogledd ddwyrain Cymru.
Trefnwyr yr arddangosfa ydi cefnogwyr clwb pêl droed Wrecsam, o sir Amwythig ( Y Shropshire Reds) ac aelodau o gymdeithas Treftadaeth Rheilffordd y Cambrian.
Cychwynnodd pêl-droed yn yr ardal o amgylch y meysydd glo a ymestynnodd o Groesoswallt, drwy ardal Wrecsam ac ymlaen i Sir y Fflint.
Rhoddodd hyn esgor i adeiladu rheilffordd o Gaer i Amwythig, a golyga hyn bod y clybiau pêl droed newydd fel Wrecsam, Rhiwabon (Derwyddon), y Waun a Chroesoswallt a ddatblygodd yn sgil y Chwyldro Diwydiannol yn gallu cyrraedd gemau yn gymharol gyflym a hawdd.
Cafodd clwb pêl-droed Wrecsam (yr hynaf yng Nghymru ac ymhlith yr hynaf yn y byd) ei sefydlu ym 1864, yr un flwyddyn a sefydlwyd Cwmni Rheilffyrdd y Cambrian.
Gyda dyfodiad y rheilffyrdd, roedd arloeswyr pêl droed yng Nghymru (fel ag yn Lloegr) yn gallu sefydlu cystadlaethau ffurfiol a dilyn rheolau cytunedig, safonol yn hytrach na dibynnu ar gemau cyfeillgar di-drefn.
Sefydlwyd cystadleuaeth Cwpan y F.A.yn 1871, ac yna yn 1877, gwelwyd Cwpan Cymru ynn cael ei sefydlu gan Gymdeithas Bel Droed Cymru (gyda’i bencadlys yr adeg honno yn Wrecsam).
Yn Lloegr, sefydlwyd y Gynghrair Pêl-droed yn 1888 ac yna gwelwyd llawer o gynghreiriau rhanbarthol neu leol eraill yn codi yma ac acw ar draws Cymru, gyda phob un yn dibynnu ar y system rheilffordd i gludo'r tîm a'i gefnogwyr i’r gemau ac yn ôl yr un diwrnod.
Roedd y Rheilffyrdd y Cambrian yn cynnig coets sal诺n moethus a oedd yn aml yn cael ei archebu gan glybiau i’w cludo i’r gemau oddi cartref. Ar draws gogledd Cymru fe fyddai hyn yn golygu teithiau i’r Trallwng, Y Drenewydd, Llanidloes, Machynlleth, Aberystwyth, Tywyn, Abermaw, Porthmadog a Phwllheli.
Cawn dystiolaeth hefyd o bwysigrwydd y rheilffyrdd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf drwy stori am y golwr o Gymro, Leigh Richmond Roose, wrth chwarae i Stoke City.
Fel yr wyf eisoes wedi cyfeirio ato, roedd y cwmnïau rheilffyrdd yn cadw trenau preifat yn barod i'w llogi gan deithwyr cefnog. Felly ar ôl methu’r trên arferol a fyddai yn ei gludo i Birmingham i chwarae yn erbyn Aston Villa, aeth y Cymro ati i logi trên iddo’i hun er mwyn ei gario’r holl ffordd i Birmingham ar y gost o bum swllt y filltir yn ogystal â'r pris arferol. Ar ôl cyrraedd, trefnodd i’r cwmni anfon y bil o £31, oedd yn ffortiwn ar y pryd - i bwyllgor Stoke City. Gyda llaw fe fyddai £31 bryd hynny yn gyfatebol i dair mil a hanner o bunnau erbyn heddiw!
Yn yr arddangosfa yng Nghroesoswallt, bydd nifer o arbenigwyr ar femorabilia pêl droed yn bresennol i drafod rhaglenni, bathodynnau a chylchgronau.
Bydd yna hefyd wybodaeth am brosiect Ysgolion Kenya, elusen sydd wedi derbyn cit pêl-droed gan glybiau Wrecsam, y Seintiau Newydd a chlybiau lleol eraill, gyda’r dillad yn cael eu hanfon at bobl ifanc difreintiedig yn Kenya.
Bydd Cwpan Cymru, Tlws Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Uwch Gynghrair Cymru hefyd yn cael eu harddangos. Fodd bynnag, ni fydd Cwpan Cymru yn ddieithr i adeilad yr orsaf gan iddo eisoes gael ei arddangos yno yn 1883 pan enillodd tîm y Seren Wen o Groesoswallt (Oswestry White Star) y Gwpan a sicrhau mai hwy oedd y tîm cyntaf i’w chario dros Glawdd Offa.
Gwelwyd nifer o rowndiau terfynol Cwpan Cymru yn cael eu cynnal yng Nghroesoswallt hefyd gyda’r Derwyddon, Y Drenewydd, Amwythig a Wrecsam yn gadael yr orsaf gyda Chwpan Cymru yn eu meddiant
Arddangosfa gwerth ei gweld y Sul yma yn yr Hen Orsaf yng Nghroesoswallt, rhwng un ar ddeg y bore a thri y prynhawn. Bydd mynediad am ddim ond bydd y trefnwyr yn croesawu unrhyw gyfraniad i fudiad T欧 Gobaith.