Main content

Gemau nos Wener yn Uwch Gynghrair Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Pum gem yn Uwch Gynghrair JD Cymru heno yn dilyn y toriad ar gyfer Cwpan Cymru, gyda gemau Y Bala yn erbyn Y Seintiau Newydd a Chaernarfon yn erbyn Aberystwyth yn tynnu fy sylw.

Es draw i'r Flint mos Fawrth i weld a fyddai’r tîm o Lannau Dyfrdwy yn creu sioc yn erbyn y Bala, ond d’oedd yna ddim perygl i dîm Colin Caton, wrth i'r Bala ennill o dair gôl i ddim a hynny’n hollol gyfforddus. Cyfle felly iddynt gryfhau eu hyder ar gyfer eu gem heno, a fydd yn un llawer anoddach na'r un ganol wythnos, ond fe fyddai buddugoliaeth dros y Seintiau yn eu gweld yn dod yn gyfartal ar bwyntiau gyda'r pencampwyr presennol.

Di sgôr oedd y canlyniad pan gyfarfu'r ddau dîm ar Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt ym mis Medi, ond, gyda’r Seintiau yn dangos mwy o wendid y tymor yma nag yn y gorffennol, a’r Bala yn codi yn eu hyder fel y gwelwyd yn y Fflint, rwy’n amau y bydd yna gol neu dair ar gael eto nos Wener. I bwy? Wel dyna fater arall, gem a fydd yn llawer agosach y tro hwn y tybiwn i!

Draw ar yr Oval yng Nghaernarfon, bydd rheolwr y mis, Neville Powell yn dod a thîm Aberystwyth i chwilio am fuddugoliaeth arall, a fyddai’n gweld pum buddugoliaeth mewn chwe gem (a'r llall yn gyfartal) yn erbyn tîm y Cofis sydd eu hunain wedi colli ond unwaith yn eu pum gem ddiwethaf, ac yn cynnwys chwaraewr y mis (Nathan Craig).

Gydag Aber yn gorwedd yn y pumed safle a Chaernarfon pedwar pwynt oddi tanynt, fe all buddugoliaeth godi’r Cofis i’r chweched safle, o leiaf tan nos Sadwrn pan fydd y Drenewydd

(sydd ar hyn o bryd yn chweched) yn wynebu Llandudno yn y canolbarth.

Di sgôr hefyd oedd y gêm flaenorol yma rhwng Aber a Chaernarfon nol ym mis Hydref, ac fel y gêm ar Faes Tegid, allai ddim gweld hon yn gorffen heb goliau. Ond, fel y dwedais yn gynharach, gol neu dair, efallai, ond i bwy?

Noson ddiddorol.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf