Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Rhagfyr 1af - 7fed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Dadlau

dadlau - arguing
ymchwil - research
cecru - bickering
arbrawf - experiment
gwrthod cydnabod - refusing to acknowledge
cuddiad (cuddio) - to hide
trosgwlwyddo - to transfer
is-ymwybod - subconscience
yn flin fel cacwn (idiom) - in a foul mood
wir yr - honest to God

Dan ni wedi arfer clywed bod dadlau o flaen plant yn beth drwg ac yn medru cael effaith wael ar y plant. Ond mae ymchwil ym Mhrifysgol Washington yn dweud fod dadlau neu gecru o flaen plant yn gallu bod yn beth iach. Bore dydd Llun ar ei raglen cafodd Aled Hughes sgwrs am hyn efo'r therapydd Gwen Ellis.

Melin Bupur - Noel James

swn chwerthin - thesound of laughter
sbort ar ben - making fun of someone
doniol - amusing
ffili credu - couldn't believe
bron â llefain - almost crying
atgofion melys - sweet memories
amodau personol - personal conditions
dihuno - waking up
angerdd - passion
creadigol - creative

Gwen Ellis yn fan'na yn sôn am sut mae tymer rhywun ym medru trosglwyddo i berson arall. Difyr ynde? Ar Melin Bupur wythnos diwetha clywon ni'r comedïiwr Noel James yn sôn am sut ddaeth o i'r busnes yn y lle cynta, a hynny ar adeg pan nad oedd yna lawer o gomedïwyr proffesiynol yn dod o Gymru.

Bore Cothi - Nadolg Figan

her - a challenge
madarch - mushrooms
gorfod - to have to
arferol - usual
o flaen llaw - beforehand
ail-gynhesu - to reheat
delen i draw - I would come over
cynnyrch llaeth - dairy products
y dewis - the choice
agor ein llygaid ni - opening our eyes

Y comedïwr Noel James oedd hwnna yn siarad ar Melin Bupur. Tybed be fydd gynnoch chi ar y plât ddiwrnod Dolig? Twrci, neu ryw aderyn arall falle? Pa mor anodd ydy cael cinio Nadolig figan? Bore Llun cafodd Shan Cothi sgwrs efo'r actor Gwion Tegid sy'n chwarae rhan Barry yn y gyfres Rownd a Rownd. Mae o'n mynd i goginio pryd figan i'w deulu ddydd Nadolig. Faint o her fydd hynny iddo fo?

Cofio - Caerdydd

cyfres - series
prifddinas - capital city
swyddogol - official
Dug Caeredin - Duke of Edinburgh
canrif - century
anrhydeddwyd hi - it was bestowed the honour
dathlu - to celebrate
tywysog - prince
wedes i - I said

Mae hwna'n swnio'n bryd figan balsus iawn, yn tydy? Dwi'n siwr bydd teulu Gwion wrth eu boddau. Daw'r Clip nesa yn wreiddiol o'r rhaglen Caerdydd – cyfres o 2005 yn edrych ar hanes ein prifddinas. Mae'r clip yn edrych yn ôl i Dachwedd 1955 pan ddaeth Caerdydd yn brifddinas yn swyddogol. Angela Burns yw'r ferch fach sy'n cofio cwrdd ?'r Dug Caeredin.

Tra Bo Dau - Sue Jones Davies

portreadu - to portray
cymeriadau - characters
dychanu Cristnogaeth - satirizing Christianity
cyfnod - period of time
profiad - experience
bwys - near to
mo'yn - eisiau
mor glòs at ei gilydd - so tightly knit
cylch mewnol - inner circle
noeth - naked

Chydig o hanes Caerdydd yn dod yn brifddinas Cymru yn fan'na. Dwy actores oedd y cwmni ar Tra Bo dau wythnos yma, Gaynor Morgan Rees a Sue Jones Davies. Mae'r ddwy ers y chwedegau wedi portreadau pob mathau o gymeriadau. Un o'r cymeriadau mwya diddorol i Sue ei bortreadu oedd Judith Iscariot yn y ffilm, Monty Python Life of Brian. Sut oedd hi'n dod ymlaen efo'r actorion enwog eraill oedd yn y ffilm tybed?


Aled Hughes - Aled Llewelyn Rhaglen

bywyd sêr - the life of stars
brig - the top
dylanwadol - influential
hogan - merch
bydysawd - universe
goro (gorfod) cael - got to have
ar y cyfan - mainly
wedi cael eu seilio - based on
ychwanegu at - to add to
yn union - exactly

Golwg bach ar fywyd sêr byd y ffilmiau yn fan'na efo Sue Jones-Davies. Ffilm enwog arall wrth gwrs ydy The Wizard of Oz. Daeth y ffilm hon i frig rhestr o'r ffilmiau mwyaf dylanwadol erioed. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Aled Llewelyn am y ffilm a dyma i chi flas ar y sgwrs honno.

Rhaglen Geraint Lloyd - Cadi Gwyn Edwards

Caergrawnt - Cambridge
cantores - female singer
dawnsfeydd - dances
achlysuron crand - posh occasions
rhyfedd iawn - very strange
torf - crowd
anghofio'r geiriau - forgetting the words
digon gwir - true enough
cyfansoddi - to compose
cychwyn - starting

A dw i'n siwr bydd The Wizard of Oz ar un o'r sianeli teledu dros y Nadolig 'ma! Mae Cadi Gwyn Edwards yn dod o Lanrwst yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi'n fyfyrwraig yng Nghaergrawnt. Mae hi'n gantores ac enillodd hi gystadleuaeth Can i Gymru yn 2017. Fel gaethon ni glywed ar raglen Geraint Lloyd mae hi wedi bod yn brysur iawn yn perfformio yng Nghaergrawnt ers iddi hi gyrraedd yno.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

T卯m Hyfforddi Wrecsam

Nesaf

Gemau nos Wener yn Uwch Gynghrair Cymru